Ganwyd mewn coty bychan, lle yr oedd melin ban, ar dir Erwyon, yn ymyl Ffaldybrenin. Ymunodd yn ieuanc â'r eglwys yng Nghrofft y Cyff (Annibynnol), dechreuodd bregethu yn 24 oed, urddwyd ef yno yn 1743 a llafuriodd yn gymeradwy fel gweinidog ac ysgolfeistr hyd 1765, pryd y galwyd ef i Gapel y Graig, Trelech. Bu'n dra llwyddiannus yno am dros 20 mlynedd.
Yn 1787 bu ymrafael yn eglwys Glandŵr ynghylch yr athrawiaeth a disgyblaeth eglwysig. Barnai rhai fod y Parch. John Griffiths yn rhy Galfinaidd. Diarddelwyd tua 17 o aelodau a dueddai at Arminiaeth. Ystyriai Owen Davies fod y ddisgyblaeth a weinyddwyd arnynt yn rhy galed ac arwyddodd barodrwydd i'w derbyn i eglwys Trelech. Safodd yr eglwys yn erbyn hyn er na chyhuddid ef o ddal yr un golygiadau â'r blaid. Aeth nifer bychan allan gydag ef a phregethai iddynt yn ei dŷ ei hun yn y Dinas. Yn 1787, wedi codi capel Rhyd-y-parc, rhwng Trelech a Sain Clêr a thua naw milltir o'r lle olaf, aeth i weinidogaethu yno a pharhau hyd ei farw, 6 Gorffennaf 1792. Troes y gynulleidfa yn raddol yn Ariaid ac yna'n Undodiaid.
Tua diwedd ei oes amlygodd awydd am gyfannu'r rhwyg. Dymunodd gael ei gladdu ym mynwent Capel y Graig, ac felly y bu er i fedd gael ei dorri iddo yn Rhydyparc. Codwyd capel newydd yn 1860, yn ystod gweinidogaeth Titus Evans, ond edwinodd yr achos a darfod yn y naw degau.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.