EVANS, TITUS (1809 - 1864), gweinidog Undodaidd ac ysgolfeistr

Enw: Titus Evans
Dyddiad geni: 1809
Dyddiad marw: 1864
Priod: Rachel Evans (née Jeremy)
Plentyn: Walter Jenkin Evans
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog Undodaidd ac ysgolfeistr
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg
Awdur: Thomas Oswald Williams

Ganwyd yn Redcock, dyffryn Cerdin, Llandysul. Gwehydd oedd ei dad, a bu yntau'n gweithio wrth yr un grefft. Aelod ydoedd o eglwys Annibynnol Horeb, ac yn ysgol y Parch. S. Griffiths, Horeb, y bu ym more oes. Wedi gadael ei grefft am y dydd âi am wers i Burlip at Owen Evans. Bu'n glerc y plwyf yn Llandysul, a chlerc cyfreithiwr yn Llandysul ac Abertawe. Ni theimlai mai'r gyfraith oedd gwaith ei fywyd, ac aeth eilwaith at y Parch. Owen Evans i Gefn-coed-y-cymmer - yntau yn berthynas iddo. Yr oedd weithian wedi newid ei ddaliadau. Pasiodd i Goleg Caerfyrddin lle y bu am bedair blynedd (1844-8). Fe'i hordeiniwyd yn weinidog Rhydyparc ger Llanboidy, a'r Onnenfawr ger Llandeilo, ac agorodd ysgol Parcyfelfed, Caerfyrddin (1849-64). Yr oedd yn athro llwyddiannus, a dywedir fod mwy o fechgyn Deheudir Cymru wedi'u haddysgu ym Mharcyfelfed nag yn un ysgol arall yng Nghymru yn y cyfnod. Ni chodai dâl ar fechgyn tlawd a'u hwyneb ar y weinidogaeth. Gŵr syml a dirodres ydoedd, ac o galon fawr. Ymarferol oedd ei bregethau ac ni ellir mesur ei gymwynas i Gymru ond yn nylanwad ei ddisgyblion. Priododd Rachel, merch y Parch. John Jeremy, Caeronnen; mab iddynt oedd y prifathro W. J. Evans. Bu farw 29 Chwefror 1864 yn 54 mlwydd oed, a chladdwyd yng nghladdfa gyhoeddus tref Caerfyrddin.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.