EVANS, OWEN (1808 - 1865), gweinidog Undodaidd ac ysgolfeistr

Enw: Owen Evans
Dyddiad geni: 1808
Dyddiad marw: 1865
Priod: Margaret Evans (née Harries)
Priod: Jennet Evans (née Davis)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog Undodaidd ac ysgolfeistr
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg
Awdur: Thomas Oswald Williams

Ganwyd 25 Ebrill 1808 yn Burlip, Llandysul. Fe'i haddysgwyd yn ysgol Davis Castellhywel nes ei fynd i Goleg Caerfyrddin (1826-30). Wedi'i gwrs yn y coleg daeth adref i Burlip gan bregethu yn achlysurol yn Pantydefaid ac agor ysgol yn Llandysul ac wedyn yn y College, Maesymeillion (1830-4). Bu'n athro yn Evesham a Birmingham am 12 mis. Yn 1836 derbyniodd alwad i Blaengwrach, ac yn 1837 symudodd i Cefncoedycymer, lle y bu am 28 mlynedd, yn weinidog yr Hen Dŷ Cwrdd ac yn ysgolfeistr yr ardal. Bu nifer mawr o fyfyrwyr y gwahanol enwadau yn ei ysgol. Fel ysgolor yr oedd yn hyddysg yn yr hen ieithoedd. Bu am flynyddoedd yn arholwr mewn Hebraeg yng Ngholeg Caerfyrddin. Bu'n briod ddwywaith - (1) â Jennet, merch David Davis, Castellnedd, a (2) â Margaret Harries o Benderyn yn disgyn o Shôn Llewelyn, un o sylfaenwyr yr Hen Dŷ Cwrdd. Heblaw erthyglau i'r Ymofynydd cyhoeddodd bregethau ar Farnedigaethau Tymhorol, 1846, a chyfieithiad o bregeth y Rabbi Raphael, Birmingham, ar Undod Duw, 1846. Bu farw 9 Ionawr 1865 a chladdwyd yng nghladdfa yr Hen Dŷ Cwrdd, Cefn Coed.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.