Ganwyd yn sir Gaerfyrddin tua 1810. Yn ieuanc symudodd i fyw i ardal Llantrithyd ym Mro Morgannwg, ac yno y treuliodd ran fawr o'i oes fel amaethwr. Tra yno astudiodd gerddoriaeth, a daeth yn gerddor lled dda. Gwnaeth wasanaeth mawr trwy fynd o gwmpas y cymdogaethau cylchynnol i ddysgu canu. Tua 1853 symudodd i Gwmafon, Morgannwg, a pharhaodd i lafurio dros gerddoriaeth. Cyfansoddodd amryw donau, a cheir hwyn yn Caniadau Seion (Mills) a Telyn Seion (R. Beynon). Yn Ebrill 1854 dug allan Y Blwch Cerddorol, yn cynnwys 89 o donau, 16 o anthemau, 90 o ddarnau dirwestol, chwech o donau teuluoedd, ac un ddwyawd - y cwbl o waith cyfansoddwyr Cymreig. Ar ddechrau'r llyfr ceir ' Traethawd ar Natur, Hanfod, a Dybenion Cerddoriaeth.' Yr unig dôn yn y casgliad a arferir heddiw ydyw ' Dyffryn Baca ' o waith David Richards, Pontardawe. Dechreuodd gadw siop yng Nghwmafan, a syrthiodd i dlodi mawr. Bu farw yn Aberafan tua 1873.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.