DOWNMAN, JOHN (1749 - 1824), paentiwr

Enw: John Downman
Dyddiad geni: 1749
Dyddiad marw: 1824
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: paentiwr
Maes gweithgaredd: Celf a Phensaernïaeth
Awdur: Thomas Mardy Rees

Ganwyd yn sir Ddinbych (nid yn Nyfnaint fel y dywed rhai) yn 1750. Bu'n astudio yn y 'Royal Academy Schools,' 1769, ac o dan Syr Benjamin West; fe'i gwnaethpwyd yn A.R.A. yn 1795. Yr oedd yng Nghaergrawnt yn 1777 yn paentio lluniau personau, yn Plymouth yn 1806, ac yn Exeter=, 1807-8. Priododd ferch William Jackson, organydd eglwys gadeiriol Exeter. Dychwelodd i Lundain i fyw, bu wedyn yn byw yng Nghaer=, ac, yn olaf oll, yn Wrecsam, lle yr oedd ei ferch yn byw (bu hi farw 1840).

Gweithiai mewn olew a dyfrliw. Dyma rai o'i luniau: 'A lady at work,' 'Death of Lucretia,' 'Rosalind.' Ysgythrodd Bartolozzi rai o'i ddarluniau, e.e. lluniau'r Duchess of Devonshire, Lady Duncannon, a Mrs. Siddons. Bu farw 24 Rhagfyr 1824 yn Wrecsam.

Nodyn golygyddol 2023:

Gwyddys bellach fod John Downman wedi ei eni yn Eynesbury, Huntingdonshire, ac iddo gael ei fedyddio yno ar 12 Medi 1749. Credir iddo fynychu ysgol yn Rhiwabon, Sir Ddinbych.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.