EDMUNDS, WILLIAM (1827 - 1875), ysgolfeistr a llenor

Enw: William Edmunds
Dyddiad geni: 1827
Dyddiad marw: 1875
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: ysgolfeistr a llenor
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: David Gwenallt Jones

Ganwyd yn Llanbedr-Pont-Steffan, Sir Aberteifi, bedyddiwyd 27 Rhagfyr 1827. Aeth i ysgol ramadeg Llanbedr Pont Steffan, ac yn 19 oed i Goleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan. Enillodd yno wobrau lawer; cyrhaeddodd y rheng flaenaf a chad yr anrhydeddau mwyaf. Ar ôl gadael y coleg aeth yn is-brifathro Coleg Hyfforddi Caerfyrddin; yn ystod y cyfnod hwn ordeiniwyd ef yn offeiriad gan yr esgob Thirlwall, ac eniliodd ' Wobr yr Esgob.' Pan ddaeth swydd prifathro ysgol ramadeg Llanbedr pont Steffan yn wag, cafodd hi, a bu'n llwyddiannus iawn. Dôi bechgyn yno o bob sir yng Nghymru, ac ar un adeg yr oedd hanner myfyrwyr Coleg Dewi Sant yn hen ddisgyblion yno, ac enillodd rhai ohonynt anrhydeddau uchel yng ngholegau Caergrawnt a Rhydychen. Yn 1863 rhoddwyd iddo ficeriaeth Rhostiê, Sir Gaerfyrddin, ond ficer absennol ydoedd. Yn 1856 cyhoeddodd lyfryn: Gwers-lyfr Llanbedr: yn Cynwys Gwersi Hawdd i Ddysgu Sillebu a Darllen Cymraeg. Yn 1856 cyhoeddodd hefyd 8fed arg. Y Ffydd Ddiffuant (Charles Edwards), gyda nodiadau. Darllenodd bapur o flaen y ' Cambrian Archaeological Association ' yn Aberteifi, 1859, a chyhoeddwyd ef yn 1860 yn Archæologia Cambrensis, ac yn yr un flwyddyn yn llyfryn, On Some Old Families in the Neighbourhood of Lampeter. Yn 1854 cyhoeddodd yr 11eg arg. o Drych y Prif Oesoedd (Theophilus Evans), gyda rhagymadrodd. Bu farw 21 Ionawr 1875, a chladdwyd ef yn eglwys blwyf Llanbedr-Pont-Steffan.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.