EDWARDS, EDWARD (1726? - 1783?), clerigwr ac ysgolhaig

Enw: Edward Edwards
Dyddiad geni: 1726?
Dyddiad marw: 1783?
Rhiant: Lewis Edwards
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr ac ysgolhaig
Maes gweithgaredd: Crefydd; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd yn Talgarth, Tywyn, Meirionnydd, yn fab i Lewis Edwards, 'yswain.' Ymaelododd yng Ngholeg Iesu, Rhydychen, fis Mai 1743, 'yn 17 oed'; graddiodd yn Ionawr 1746/7 (B.D. 1756, D.D. 1760). Etholwyd ef yn gymrawd yn 1747, a bu'n gymrawd hyd 1783, gan ddal hefyd (o 1770 beth bynnag) reithoraeth Bessels-leigh gerllaw Rhydychen; o 1762 hyd 1783 yr oedd yn is-brifathro'r coleg. Ymddiswyddodd yn 1783 i gymryd rheithoraeth Aston Clinton, Swydd Buckingham; ac yn ôl llythyr gan Samuel Johnson yr oedd wedi marw erbyn 1784. Yr oedd Johnson ac yntau'n gyfeillion ac yn llythyru â'i gilydd, a bu Johnson yn aros gydag ef yng Ngholeg Iesu yn 1782. 'My convivial friend' yw disgrifiad Johnson ohono, a chadarnheir yr awgrym gan Richard Morris pan edrydd ef hanes derbyn Edwards yn aelod o'r Cymmrodorion yn 1763. Gwyddai ryw gymaint am bethau Cymraeg, ond Groeg oedd ei faes. Bu'n hir arfaethu cyhoeddi argraffiad o Memorabilia Xenophon. Cyhoeddodd ym 1773 draethawd ar y foeseg Socrataidd a adlewyrchir yn y llyfr hwnnw; a chyn ei farw yr oedd wedi argraffu'r testun Groeg a chyfieithiad Lladin ohono, ond wedi ei farw y cwplawyd y gwaith (1785) gan ei gyfaill a'i gyd-Gymmrodor Henry Owen. Bu farw 2 Medi 1783.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.