Ganwyd 14 Ionawr 1836 yn ardal Bodfari. Symudodd oddi yno gyda'i rieni i Blas Llanychan, Rhuthyn. Dechreuodd farddoni pan oedd yn ifanc, ac yn 1856 daeth yn ail yn eisteddfod Bangor am ei awdl, 'Yr Amaethwr.' Yn 1858 cyhoeddwyd cyfrol o'i farddoniaeth, Y Blaenffrwyth, gan Thomas Gee, Dinbych. Enillodd gadair eisteddfod Llandudno yn 1864 am ei awdl 'Ioan yn Ynys Patmos,' ac yn eisteddfod Aberystwyth yn 1865 enillodd wobr am 'Draethawd Beirniadol ar Eben Fardd a'i Athrylith.' Yn 1869, yn eisteddfod Lerpwl, enillodd gadair am ei farwnad i'r Parch. Henry Rees. Bu am ysbaid yn ysgrifennydd i gyfreithiwr yn Rhuthyn ac wedi hynny i Thomas Gee yn Ninbych. Aeth i Goleg yr Annibynwyr yn y Bala i baratoi am y weinidogaeth, a chafodd alwad i fugeilio eglwys Mynyddislwyn, sir Fynwy. Ni dderbyniodd yr alwad, ond yn Mai 1867 aeth at ei rieni i'r Unol Daleithiau, ac yno, yn Oskosh, Wisconsin, y bu farw ar 8 Mawrth 1870.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.