Ganwyd yng Nglynceiriog yn sir Ddinbych. Aeth i Lundain yn ŵr ifanc, ac wedi dyfod i gysylltiad ag Owen Jones (' Owain Myfyr ') a Robert Hughes ('Robin Ddu o Fôn'), ymunodd a Chymdeithas y Gwyneddigion. Ef oedd un o'r aelodau amlycaf o hynny hyd ei farw yn Medi 1792. Bu'n ysgrifennydd yn 1779, yn llywydd yn 1783, ac edrychid arno fel bardd y gymdeithas. Pan gynigiodd y Cymmrodorion 'fath arian' am farwnad i Richard Morris yn 1780, canodd 'Siôn Ceiriog' gan benrydd 'bindaraidd' (B.M. Add. MS. 14993, 57-8). Er mai Richard Jones, Trefdraeth, a enillodd y 'bath arian,' mynnai'r gymdeithas mai cân 'Siôn Ceiriog' oedd yr orau, a chafodd yr hyn a elwid yn 'honorary medal.' Ar wahân i hyn, ychydig o'i waith barddol a gadwyd. Y mae'n eglur ei fod yn 'gymeriad,' ac enillodd enw mawr fel areithiwr huaŵdl yng nghyfarfodydd y Gwyneddigion, a hefyd yng Nghymdeithas y Caradogion. Yr oedd yn ŵr ffraeth, hytrach yn benboeth ac yn anghyfrifol, a'i hoff ddifyrrwch ydoedd herio ei gymdeithion Llundeinig. Dywed John Jones, Glan-y-gors, ei fod yn seryddwr, yn gerddor, ac yn hanesydd, ond ni wyddom ddigon i roi barn ar yr haeriad hwn.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.