Fe wnaethoch chi chwilio am henry morgan
Ganwyd yn Cwmbranfach, plwyf Llansadwrn, Sir Gaerfyrddin. Ni chafodd fanteision addysg ym more ei oes. Cafodd wersi mewn cerddoriaeth gan Dafydd Siencyn Morgan. Crydd ydoedd wrth ei alwedigaeth, a threuliodd ei oes wrth ei grefft yn Llangadog, Sir Gaerfyrddin. Bu'n arwain y canu yng nghapel y Methodistiaid am flynyddoedd, ac yn glochydd eglwys y plwyf am 10 mlynedd. Cadwai ddosbarth cerddorol bob nos o'r wythnos mewn rhyw bentref neu gilydd, ac yr oedd yn chwaraewr da ar y clarinet. Enillodd wobr Cymdeithas y Cymmrodorion am gyfansoddi tôn. Cyfansoddodd rai anthemau a nifer mawr o donau. Ymddangosodd ei dôn gyntaf, ' Grongar,' yn Seren Gomer 1824, a cheir tonau o'i waith yn yr Haleliwia, Haleliwia Drachefn, Telyn Seion (Rosser Beynon), a Caniadau Seion (R. Mills). Ysgrifennodd adolygiad ar Gramadeg (John Mills) a Caniadau Seion i'r Haul, 1839. Bu farw tua'r flwyddyn 1873, a chladdwyd ef ym mynwent eglwys Llangadog.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.