MORGAN, DAFYDD SIENCYN (1752 - 1844), cerddor

Enw: Dafydd Siencyn Morgan
Dyddiad geni: 1752
Dyddiad marw: 1844
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cerddor
Maes gweithgaredd: Crefydd; Cerddoriaeth
Awdur: Robert David Griffith

Ganwyd yn 1752 yn Penshingrug, Llangrannog, Sir Aberteifi, mab clochydd eglwys y plwyf. Yr oedd ei dad yn deall cerddoriaeth, a chanddo ef y cafodd y mab ei wersi cyntaf mewn cerddoriaeth. Yn 20 oed ymunodd â chartreflu milwrol sir Benfro, a chafodd gyfleustra i ehangu ei wybodaeth gerddorol, a dysgu canu y clarinet. Wedi iddo ddychwelyd i Langrannog penodwyd ef yn arweinydd canu yn eglwys y plwyf, a daeth yn enwog fel cerddor. Dechreuodd gynnal dosbarthiadau cerddorol, rhoddodd ei le i fyny fel arweinydd canu'r eglwys, ac aeth ar daith am rai misoedd trwy Ogledd Cymru i ddysgu cerddoriaeth, gan aros ym Machynlleth, Dolgellau, Bangor, ac yn sir Fôn. Wedi hynny aeth trwy siroedd Morgannwg a Mynwy. Ymunodd â'r Annibynwyr yn y Capel Isaf, Llechryd, a phenodwyd ef yn arweinydd y canu yno. Cyfansoddodd amryw donau ac anthemau. Ceir ei anthem ‘Teyrnasa Iesu Mawr’ yn Casgliad o Donau, 1843, dan yr enw ‘Mercurial’ wedi ei threfnu gan J. Ambrose Lloyd. Trefnwyd hi hefyd gan D. Emlyn Evans yn Cronicl y Cerddor rhif 22, a bu mewn bri mawr hyd ddiwedd y ganrif ddiwethaf. Ymddangosodd ei donau yn Lleuad yr Oes, 1828, Caniadau Seion, ac yn Swn Addoli. Y dôn ‘Horeb’ yn Swn Addoli ydyw y dôn ‘Penllyn,’ 8.7.3. Bu farw 18 Tachwedd 1844 ym Mhenllwyndu, ger Aberteifi, a chladdwyd ef ym mynwent Llangoedmor, ger Aberteifi.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/