brodor o Drawsfynydd. Cyfansoddodd lawer o farddoniaeth. Ceir enghreifftiau o'i waith yn Corff y Gainc (' Ddafydd Ddu Eryri ') - sef ' Englyn, Cyffes y Bardd,' a ' Cywydd Marwnad Rowland Hugh, bardd o'r Graienyn, gerllaw'r Bala, 1802. '. Yn Seren Gomer, 1835, 275, ceir ei benillion ' Gofal Duw.' Y mae englynion coffa iddo gan ' Gutyn Peris ' yn Corff y Gainc, ac ar ei garreg fedd y mae 12 o englynion gan yr un awdur. Cyfeirir ato ar ei garreg fedd fel 'olrheiniwr dyfal,' a chasglodd ynghyd nifer o lawysgrifau. Bu farw 18 Chwefror 1805 a'i gladdu yn Nhrawsfynydd ar y 21.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.