Nid oes sicrwydd am fan ei eni, na'i rieni. Dechreuodd ei yrfa fel melinydd ym Melin Gwibnant, ger Mostyn, Sir y Fflint. Symudodd i Lerpwl i wasnaethu fel certiwr, ond cafodd le gyda'r Bridgewater Trust a dringodd i fod yn arolygwr, swydd a ddaliodd tra bu byw. Bu cysylltiad rhyngddo â'r canu yng nghapel Methodistiaid Calfinaidd Bedford Street am 24 mlynedd. Cyflwynwyd Beibl a £52 yn anrheg iddo am ei lafur. Efe a gyfansoddodd y dôn ' Caersalem,' 8.7.4., un o donau mwyaf poblogaidd Cymru. Cyfansoddwyd hi yn 1824, ymddangosodd yn Peroriaeth Hyfryd (John Parry), 1837, ac adwaenid hi fel ' Tôn Bob y Felin.' Ymddangosodd yn Y Cysegr a'r Teulu (Thomas Gee), 1878, gydag enw E. Roberts fel cyfansoddwr iddi, ond ysgrifennodd John Edwards, Bedford Street (olynydd Robert Edwards), ac eraill i brofi mai Robert Edwards oedd ei hawdur. Bu farw yn 1862, a chladdwyd ef ym mynwent Anfield.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.