ELLIS, ELLIS ab (fl. 1685-1726), clerigwr a bardd

Enw: Ellis Ab Ellis
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr a bardd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Barddoniaeth
Awdur: Gildas Tibbott

Cyfeiliornodd amryw o'r geiriaduron bywgraffyddol wrth ei amseru ganrif yn gynharach. Ni wyddys dim am ei deulu na'i gysylltiadau cynnar, er y ceir fel pennawd i gyfres o englynion o'i waith yn NLW MS 255A 'Englynion o wneuthuriad Ellis ab Ellis a anwyd ymhlwyf Trillo yn sir Feirionydd.' Daliodd guradiaeth barhaol eglwys Rhos, Sir Gaernarfon, am yn agos i 32 mlynedd; ceir ei gofnod cyntaf yng nghofrestr y plwyf ar 14 Mai 1693, a'r olaf ar 28 Mawrth 1725. Yr oedd Llandudno hefyd o dan ei ofal. Bu farw ym mhlwyf Meliden, Sir y Fflint. Profwyd ei ewyllys 22 Medi 1726.

Ysgrifennodd farddoniaeth mewn mesurau caeth a rhydd. Cyhoeddwyd ' Cywydd i'r Arian ' yn Dyfyrwch ir Cymru neu Ddewisol Ganiadau (Dulyn, d.d.) ac yn Y Gwladgarwr, iv, 18; ' Hanes y Byd ' yn Almanac Thomas Jones, 1685; a ' Carol Plygain,' 1710, ' Hanes Llundain,' a ' Gofal Cybydd am ei Ferch ' yn Blodeu-Gerdd Cymry, 1759. Ceir rhai o'r darnau hyn, ac eraill o'i waith, yn y llawysgrifau canlynol: NLW MS 9B , NLW MS 255A , NLW MS 432B , NLW MS 434B , NLW MS 436B , NLW MS 653B , NLW MS 2621C , NLW MS 3487E , NLW MS 10744B , NLW MSS 13063B ; Cwrtmawr MS 5B ; Cardiff 47, 64; Swansea 3 (155); B.M. Add. 14875, 14987, 14992 (a'u cyhoeddi yn Llawysgrif Richard Morris o Gerddi, 1931), 15005, 15010. Cyfieithodd lyfryn o ryddiaith, Britain's Timely Warning, i'r Gymraeg o dan y teitl Cofiadur Prydlon Lloegr (Amwythig, Stafford Prys, 1761).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.