EVANS, ARISE (enw bedydd, Rhys neu Rice) (fl. 1607-60), dewin a phroffwyd

Enw: Arise Evans
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: dewin a phroffwyd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: Thomas Richards

Ganwyd yn Llangelynin, Meirion, o gylch 1607, ac yn ôl yr Haul 1940, 170, fe'i ganwyd yn Ynys Faig. Bu'n brentis teiliwr yn Wrecsam; yno y daeth yr enw ' Arise ' i fod, a theimlai fod rhyw wers arbennig iddo ef ymhob adnod lle digwyddai'r gair. Yr oedd wedi gweled gweledigaethau a breuddwydio breuddwydion cyn iddo erioed adael ei hen gartref; daethant yn fil amlach wedi iddo gyrraedd Llundain yn 1629; cyn hir gwnaeth ymgais, aflwyddiannus, i rybuddio Siarl I yn ei wyneb am y peryglon oedd o'i flaen; ond llwyddodd i gael gair gyda'r iarll Essex, a dweud am y dyrchafiadau oedd yn dod iddo. Ymddiddorai yn y llu sectau a godai yn sgil y rhyddid newydd, gan feirniadu'n llym y rhan fwyaf ohonynt, yn enwedig y syniadau am yr Ail Ddyfodiad a goleddid gan Christopher Feake a William Aspinwall. Yn ystod blynyddoedd bywiog 1653-5, mynnodd gael sgwrs efo'r Diffynnwr ei hun, ond sôn yn hyderus am adfer y frenhiniaeth oedd ergyd y pamffledau a gyhoeddodd; yn wir, yn 1653 cyfleodd olwg fras ar debygolrwydd datblygiadau wedi marw Cromwell a oedd yn rhamantus debyg i'r ffeithiau fel y digwyddasant. Y mae yn ei Narrations, Voices from Heaven, ac Echoes o'r lleisiau hynny, bethau rhyfedd ac ofnadwy; ond y mae sylwadau achlysurol ynddynt o ddiddordeb mawr, yn enwedig ar adnabyddiaeth y Cyrnol John Jones o lyn Tal-y-llyn, ar waith Christopher Love yn siarad ag ef yn Gymraeg, ar gysylltiadau Cymreig Olifer y Diffynwr; ac ar wag honiadau y sêr-ddewinwr William Lilly. Ymddengys enwau lleoedd o Gymru â golwg farbaraidd druenus arnynt yn ei weithiau, ond efallai mai'r printiwr oedd ar fai. Ni wyddys pa bryd y bu farw, ond bu fyw yn ddigon hir (meddir) i Siarl II symud ymaith ryw dyfiant annaearol hyll oedd ar ei drwyn.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.