Ganwyd mewn bwthyn to gwellt o'r enw Tŷ Coch, ger Cyffordd Caerfyrddin, mab Dafydd ac Esther Evans. Symudodd y teulu i fyw i Aberdâr, a dechreuodd y mab yn 8 oed weithio yn y lofa. Argraffydd yn swyddfa'r Gwron a Seren Gomer ydoedd y tad, a magwyd y mab yng nghwmni ' Llew Llwyfo ' ac eraill o enwogion y swyddfa. Yn 11 oed ymunodd â chôr ' Llew Llwyfo ' a oedd yn perfformio ' Storm Tiberias ' (' Tanymarian '), ac yn ddiweddarach aeth yn aelod o ' Gôr Caradog.' Dewiswyd ef yn arweinydd y Glee Society, Aberdâr, a enillodd amryw wybrwyon. Yn 1876 symudodd i'r Maerdy, Rhondda Fach, yn beiriannydd codi glo o'r lofa. Penodwyd ef yn arweinydd y canu yng nghapel Annibynnol Siloa, a rhoddodd berfformiadau o amryw gantawdau gyda'r côr. Bu'n arweinydd côr meibion Rhondda Fach hefyd. Yr oedd yn ddatganwr da, a gelwid am ei wasanaeth ym mherfformiadau'r clasuron. Yr oedd yn ganwr rhagorol gyda'r tannau, a bu'n gwasnaethu Gorsedd Beirdd Ynys Prydain fel datganwr, ac yn beirniadu yn yr eisteddfod genedlaethol. Traddododd ei ddarlithiau - ' Noson gyda'r Tannau ' a ' Canu gyda'r Tannau ' - ar hyd a lled y Deheudir. Bu farw 17 Mawrth 1915 a chladdwyd ef ym mynwent Maerdy.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.