Na chymysger ef â'r David Evans arall a fu'n weinidog yn yr un lle (ac yn Heol-y-prior, Caerfyrddin) o 1765 hyd 1793.
Ganwyd Dafydd Evans yn Nant-y-fen, Cynwyl Elfed, yn fab i Stephen a Jane Evans, a bu yn ysgol Arthur Evans yng Nghynwyl. Dechreuodd bregethu tua 1808, ac yn wythnos y Pasg 1811 urddwyd ef yn gyd-weinidog yn Ffynnon-henri.
Yn 1846, fel protest yn erbyn dyfarniad cyfreithiol a oedd (yn ei farn bendant ef) yn gwneud cam ag ef gwell fu ganddo fynd i garchar Caerfyrddin am ddwy flynedd a hanner nag ymostwng. Bu farw 5 Mawrth 1866, 'yn 88 oed' meddai carreg ei fedd. Dyna'r cwbl o ffeithiau a dyddiadau ei yrfa sydd ar glawr.
Eithr y pethau na ellir ymhelaethu arnynt yma a wnaeth ei le i Ddafydd Evans yng nghof ei fro a'i genedl, sef ei wreiddioldeb, ei ffraethineb - ei odrwydd, yn wir. Disgrifir y rhain yn y llyfr arno gan Benjamin Thomas ('Myfyr Emlyn'), a gyhoeddwyd gyntaf yn 1870 ac a aeth drwy sawl argraffiad, gan werthu wrth y miloedd.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.