EVANS, DAVID ('Dewi Haran '; 1812 - 1885, arwerthydd, prisydd, goruchwyliwr tir, a bardd

Enw: David Evans
Ffugenw: Dewi Haran
Dyddiad geni: 1812
Dyddiad marw: 1885
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: arwerthydd, prisydd, goruchwyliwr tir, a bardd
Maes gweithgaredd: Eisteddfod; Peirianneg, Adeiladu, Pensaerniaeth Forwrol ac Arolygu Tir; Perchnogaeth Tir; Natur ac Amaethyddiaeth; Barddoniaeth
Awdur: Moelwyn Idwal Williams

Ganwyd yn Llanharan, Morgannwg, mab i amaethwyr parchus, a bu yntau yn dilyn yr un alwedigaeth yn ystod ei flynyddoedd cyntaf. Er y cofir ef yn fwyaf arbennig am ei gyfansoddiadau barddonol, fe'i cysylltid yn ei ddydd â'r gorchwylion a berthyn i arwerthydd a phrisydd. Meddai ar chwaeth lenyddol uchel, ac ymddiddorodd yn egnïol mewn llenyddiaeth a barddoniaeth Gymraeg. Sgrifennodd lawer i wahanol gylchgronau, ac enillodd wobrwyon yn yr eisteddfod genedlaethol ac eisteddfodau eraill am ei draethodau. Enillodd ei gyfansoddiadau le amlwg iddo ymhlith ei gyfoedion. Y casgliad mwyaf hysbys o'r darnau barddonol oedd Telyn Haran a gyhoeddwyd yn 1878 (Pontypridd, B. Davies), ac a gyflwynodd yr awdur i'r arglwydd Tredegar. Golygwyd y gyfrol gan W. Glanffrwd Thomas, a chynnwys gyfieithiadau Saesneg gan Titus Lewis, F.S.A. Bu farw 6 Gorffennaf 1885.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.