LEWIS, TITUS (1822 - 1887), hynafiaethydd

Enw: Titus Lewis
Dyddiad geni: 1822
Dyddiad marw: 1887
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: hynafiaethydd
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant
Awdur: Walter Thomas Morgan

Ganwyd Mawrth 1822; brodor o Lanelli. Bu mewn cysylltiad â masnach gydol ei oes, ac yn gynrychiolydd cwmni Watts, perchenogion ystordy mawr ym Manceinion, am dros 30 mlynedd. Daeth i fyw i S. Quentin's, Llanbleddian, ger y Bont-faen, ac enillodd fri yn lleol fel hynafiaethydd a llenor. Er mai prin oedd ei gyfle i lenydda, cafodd yr anrhydedd o'i ethol yn F.S.A. Ysgrifennai hefyd farddoniaeth yn yr iaith Saesneg. Ymhlith ei weithiau cyhoeddedig ceir cân hir, The Soldier's Wife, a Tale of Inkerman, 1855. Ysgrifennodd y geiriau Saesneg i ' Mynyddog,' 1877, cyfansoddiad gan Joseph Parry, a throsiadau Saesneg o weithiau David Evans ('Dewi Haran'), mewn detholiad o'i farddoniaeth, a olygwyd gan William Thomas ('Glanffrwd'), dan y teitl Telyn Haran, 1878. Bu farw yn Llansteffan, Sir Gaerfyrddin, 10 Medi 1887, ychydig wythnosau ar ôl ymddeol.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.