Ganwyd yn Llwyn-y-groes, Llanymynech, 1723. Cofir amdano oherwydd iddo gyhoeddi dau ysgythriad yn cynnwys darlun o Bistyll Rhaeadr a dau fap o Ogledd Cymru. Cyhoeddwyd ei fap o'r Gogledd (naw dalen) yn 1795 yn ôl agos i fodfedd i'r filltir - y map mwyaf a'r gorau o'r cylch hwn i ymddangos cyn cyhoeddi mapiau modfedd-i'r-filltir yr ' Ordnance Survey '; ysgythrwyd y map gan Robert Baugh, Llandysilio, a chyflwynwyd ef i Syr Watkin Williams Wynn.
Paratodd Evans argraffiad ar raddfa lai - tua thair milltir i'r fodfedd; ysgythrwyd hwn hefyd gan Baugh eithr nis cyhoeddwyd hyd 1797, ddwy flynedd wedi marw'r gwneuthurwr. Yr oedd i'r mapiau hyn, yn eu dydd, deilyngdod anghyffredin oherwydd eu hymddangosiad deniadol a nifer a chywirdeb y manylion a gynhwysid ynddynt.
Ailgyhoeddwyd y mapiau gan ei fab Dr. John Evans, a gafodd gydnabyddiaeth gan y Royal Society of Arts.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.