Mab John Evans, gwneuthurwr mapiau. Ganwyd 4 Gorffennaf 1756 yn Llwyn-y-groes, Llanymynech. Cafodd ei addysg yn Ysgol Westminster, yn Rhydychen, ac yn Edinburgh, lle y graddiodd yn M.D. Ymsefydlodd yn Amwythig, ac (wedi marw ei dad) yn Llwyn-y-groes. Priododd Jane Wilson, o sir Gaerlleon, a bu iddynt bum mab a phedair merch. Yr oedd iddo ddiddordeb mewn gwenyn; ceir nodiadau defnyddiol ganddo mewn darn o farddoniaeth a elwir ' The Bee '.
Yn ôl llyfr cofnodion y Royal Society of Arts ymddengys iddo ailgyhoeddi mapiau ei dad c. 1799, eithr gan nad oedd yr arian a gafwyd wrth eu gwerthu gymaint â thraul y cyhoeddi ceisiodd fanteisio ar gynnig y gymdeithas honno i roddi gwobr i bersonau 'who should complete and publish an accurate survey of any one country of not less than one inch to the mile.' Er na wnâi'r cyhoeddiad gydymffurfio'n gyfan gwbl â thelerau'r cynnig rhoes y gymdeithas 45 gini i John Evans ar awgrym is-bwyllgor y ' Polite Arts,' 25 Mawrth 1802. Ar 11 Awst y flwyddyn honno yr oedd papurau Amwythig yn hysbysu cyhoeddi 'a new and improved impression of Evans Reduced Map of North Wales,' a bod yr argraffiad hwn yn dangos 'several new or intended roads.' Gwelir felly mai am fapiau ei dad y cafodd John Evans y wobr ac na wnaeth ef ddim namyn dangos arnynt y ffyrdd newydd yn ei argraffiad ef, Awst 1802. Bu farw yn Hydref y flwyddyn 1846 yng nghartref ei fab, yr archddiacon Evans, yn Heversham, Westmorland.
Haedda tri o feibion y Dr. John Evans ryw gymaint o sylw: Robert Wilson Evans (1789 - 1866), clerigwr, cymrawd ac athro yng Ngholeg y Drindod, Caergrawnt, ac awdur toreithiog, a ddaeth yn archddiacon Westmorland; Thomas Evans (1791 - 1853), swyddog yn y llynges, a fu'n brwydro yn y rhyfeloedd yn erbyn Napoleon; a William Edward Evans (1801 - 1869), clerigwr, a ddaeth yn ganon yn Henffordd. Adroddir gyrfa'r tri yn Williams, Montgomeryshire worthies , a chafodd Robert Wilson Evans le hefyd yn y D.N.B.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.