Ganwyd ym Mynyddislwyn. Daeth at grefydd dan genhadaeth James Davies (a fu farw 1760), ac ymaelododd ym Mhenmain. Dechreuodd bregethu, ac aeth i'r academi yn Hwlffordd dan Evan Davies, 1741-3. Yn 1743, derbyniodd alwad gan 'Gynulleidfa sir Feirionnydd,' bellach wedi ei lleoli yn Llanuwchllyn, ond ar 19 Mehefin 1745 yr urddwyd ef (Cofiadur 1923 - o lyfr eglwys y Cilgwyn). Lletyai yn Nhalardd (Cynllwyd - y tŷ y lletyodd Howel Harris ynddo ar ei ymweliad cyntaf â Llanuwchllyn yn 1740); priododd â chwaer Thomas Owen o Dalardd, a chadwai ysgol dda yno. Yn 1745-6, codwyd y capel yn Rhos-y-fedwen ('Yr Hen Gapel,' y cyntaf yn yr holl sir). Yn 1756 neu 1757 symudodd Thomas Evans i Ddinbych; bylchog iawn yw'r cofnodion ar ei hanes yn Ninbych, ond y mae'n sicr ei fod yno hyd 1762 beth bynnag (rhestr Jeremy o weinidogion, NLW MS 362A ), a'r tebyg yw iddo aros yno hyd 1764, oblegid yn 1763 y bu farw ei ragflaenydd ym Mixenden (Efrog). Ym Mixenden y bu hyd ei farwolaeth, 25 Mai 1779, 'yn 65 oed.' Mewn tŷ o'r enw ' The Old Hall ' yr oedd yn byw, a chadwai ysgol yno Ystyrid ef yn Ariad. Credir mai efe a gychwynnodd yr ysgol Sul gyntaf yn sir Efrog. Gadawodd gymynrodd i'w hen eglwys ym Mhenmain at wella cyflog y gweinidogion.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.