Ganwyd 30 Mehefin 1795, yn Garthgraban-fach, Llantrisant, Morgannwg, mab David ac Elizabeth Evans. Addysgwyd ef yn Ysgol yr Eryr yn y Bontfaen. Cafodd argyhoeddiad yn 1814 dan weinidogaeth y Parch. Evan Jones, Merthyr Tydfil, ac ymaelododd â'r Methodistiaid yn Nhonyrefail. Priododd yr un flwyddyn Margaret Cadwgan o Landyfodwg, ac ymsefydlodd y ddau yng Nghae'r Curlas Uchaf. Dechreuodd bregethu yn 1818, ac ordeiniwyd ef yn sasiwn Aberteifi, 1825. Teithiodd a phregethodd dros Gymru oll ar hyd ei oes faith, a hoffid ef yn fawr ar gyfrif pertrwydd ei sylwadau a gloywder ei ddoniau. ' Cloch arian Tonyrefail ' y gelwid ef gan ei gyfoeswyr. Ef ac Edward Matthews, Ewenni a ledaenodd Fethodistiaeth ym Morgannwg yn nyddiau'r cynnydd mawr ym mhoblogaeth y sir. Pregethodd yn agoriad y rhan fwyaf o'r capeli newyddion a godid. Bu farw 14 Chwefror 1891, a chladdwyd ef ym mynwent Tonyrefail. Ysgrifennwyd ei gofiant gan ei ŵyr, William Evans, Doc Penfro. Gorŵyres iddo ydoedd Clara Novello Davies, cantores.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.