FROST, WILLIAM FREDERICK (1846 - 1891), telynor

Enw: William Frederick Frost
Dyddiad geni: 1846
Dyddiad marw: 1891
Priod: Sarah Ada Frost (née Gedrych)
Rhiant: William Frost
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: telynor
Maes gweithgaredd: Cerddoriaeth; Perfformio
Awdur: Robert David Griffith

Ganwyd yn Albert Street, Merthyr Tydfil, 28 Rhagfyr 1846, mab William Frost, telynor dall. Collodd y tad ei olwg trwy ddamwain yn y lofa yn 13 oed, anfonwyd ef i ysgol y deillion yn Abertawe, ac yno y dysgodd ganu'r delyn. Cafodd y mab ei addysg gan ei dad, a gallai ganu'r delyn yn lled dda. Yn 15 oed cafodd wobr am ganu'r delyn yn eisteddfod Merthyr, 1859. Enillodd ysgoloriaeth eisteddfod genedlaethol Abertawe, 1863, am ganu 'Sweet Richard,' a threfnodd y pwyllgor iddo gael gwersi gan Llewelyn Williams ('Pencerdd y De'). Yn eisteddfod Caer, 1866, dyfarnodd John Thomas ('Pencerdd Gwalia') y wobr o delyn bedal, gwerth £50, iddo, ac enillodd delyn deir-res yn eisteddfod Llanymddyfri. Yr oedd galwadau mawr arno fel telynor, athro ar y delyn, a beirniad ar ganu'r delyn. Derbyniodd y radd o ddoethur o'r Almaen. Priododd gerddores dalentog, o'r enw Sarah Ada Gedrych, a symudasant i fyw i Gaerdydd. Sefydlodd y ' Frost Concerts ' a wnaeth wasanaeth mawr i gerddoriaeth yn y ddinas. Cyfansoddodd nifer o ganeuon, a bu ' Hen Gymru fynyddig ' a ' Hoff Fryniau fy Ngwlad ' yn boblogaidd. Bu farw 25 Chwefror 1891 yn 5 The Parade, Caerdydd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.