GIBBON, JAMES MORGAN (1855 - 1932), gweinidog gyda'r Annibynwyr

Enw: James Morgan Gibbon
Dyddiad geni: 1855
Dyddiad marw: 1932
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Annibynwyr
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Richard Griffith Owen

Ganwyd yn Pont-ar-Seli, 1855. Yr oedd yn aelod o eglwys Bryn Seion, lle hefyd y magwyd y Dr. Herber Evans. Addysgwyd ef yn ysgol uwchraddol Castellnewydd Emlyn a Choleg Presbyteraidd Caerfyrddin (1872-5). Urddwyd ef yn 1875 yn weinidog Trelech; aeth i'r weinidogaeth Seisnig a bu'n gweinidogaethu yn eglwysi Castle Street, Abertawe (1880-5); Highgate, Llundain (1885-9); Stamford Hill, Llundain (1889-1932). Bu farw Mawrth 1932.

Bu'n eithriadol boblogaidd fel pregethwr; o dan ei weinidogaeth cynyddodd aelodaeth Stamford Hill o 355 i 1,055. Yr oedd yn aelod amlwg o glwb Caleb Morris yn Llundain, a pharhaodd yn Gymro twymgalon ar hyd ei oes. Etholwyd ef yn aelod o'r comisiwn ar 'The Church of England and other Religious Bodies in Wales and Monmouthshire' (1910). Gwrthododd arwyddo'r adroddiad, ac ar gais Cyngor yr Eglwysi Rhyddion drwy F. B. Meyer cyhoeddodd lyfr i egluro ei safbwynt: Weighed in the Balance: The Case for Welsh Disestablishment, gyda rhagair gan D. Lloyd George, 1910. Bu'n gadeirydd Undeb Annibynwyr Lloegr a Chymru (1913-4). Cyhoeddodd: The Epistle to the Galatians, 1895; The Children's Tear; The Fatherhood of God; The Disciples' Prayer.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.