GORONWY GYRIOG (fl. c. 1310-60), bardd o Fôn;

Enw: Goronwy Gyriog
Plentyn: Iorwerth ab y Cyriog
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: Ray Looker

Tad, y mae'n debyg, i'r bardd Iorwerth ab y Cyriog. Ni wyddys unrhyw fanylion amdano, ond cadwyd peth o'i farddoniaeth yn ' Llyfr Coch Hergest ' a rhai llawysgrifau eraill sy'n cynnwys awdl i Fadog ab Ierwerth (esgob Bangor) ac englynion marwnad i Wenhwyfar, gwraig Hywel ap Tudur o Fôn (brawd Goronwy Penmynydd). Ymddengys mai ef biau rhan, o leiaf, o'r farddoniaeth a briodolir i 'Gutun Ceiriog' a 'Gutun Cyriog' yn B.M. Add. MS. 14866, Cardiff MS. 26, Llanstephan MS 47 , Llanstephan MS 122 , Llanstephan MS 134 , Merthyr Tydfil MS., NLW MS 1578B , NLW MSS 13061B , a Peniarth MS 54 i , Peniarth MS 54 ii , Peniarth MS 112 , Peniarth MS 239 .

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.