Ganwyd yn Glandovan ('Glan Duan,' yn ôl West Wales Records, ii, 39), Cilgeran, ac aeth i'r môr yn fore, gyda'r capten John Donkley a oedd yn briod â chwaer ei dad. Wedi bwrw peth amser ar wahanol longau, anfonwyd ef ddwywaith ar fordeithiau ymchwil o gwmpas y byd, ac yn 1769 (bellach yn swyddog) i Ynysoedd Falkland (collwyd ei long cyn cyrraedd y lan). Bu gartref o 1770 hyd 1779; yna, bu'n gapten dan Rodney, ac o 1786 hyd 1788 ar arfordir Newfoundland. Urddwyd ef yn farchog yn 1792, a chafodd gludo'r llysgennad Prydeinig (Macartney) i China. Bu'n brwydro wedyn (yn enwedig dan Cornwallis yn 1795), a dyrchafwyd ef (1799) yn is-lyngesydd ac yn 1804 yn ddirprwy-lyngesydd; ar ôl bwrw tymor (1804-7) yn rhaglaw yn Newfoundland, ymddeolodd, a dyrchafwyd ef yn 1809 yn llyngesydd. Bu farw yn Hambledon (Portsmouth) 21 Mehefin 1814, 'yn ei eilfed flwydd ar bymtheg a thrigain.' Mab oedd Erasmus Gower i Abel Gower, a'i fam yn ferch i Erasmus Lewes, ficer Llanbedr-pont-Steffan ac un o Lewesiaid y Gernos yn Llangunllo, Ceredigion (Meyrick, Cardiganshire, 2il arg., 202, 221). Teulu o Worcestershire oedd y Goweriaid yn wreiddiol, ond ymbriodasant (tua 1700) â'r Stedmaniaid, perchenogion Glandovan, a oedd hwythau wedi dyfod i'r lle drwy ymbriodi â'i berchenogion gwreiddiol, y Fychaniaid. Disgynyddion oedd y rheini o Robert Vaughan, cainc o deulu enwocach Fychaniaid Cors-y-gedol ym Meirion; yr oedd gwraig y Robert Vaughan hwn, Elisabeth, yn ferch i'r cyfieithydd Thomas Phaer. Ymhen amser ar ôl marw'r llyngesydd, symudodd y Goweriaid o Glandovan i Glunderwen.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.