Ganwyd 3 Mehefin 1787, mab Thomas a Mary Gravell, Cwmfelin, plwyf Llandyfaelog, Sir Gaerfyrddin. Argyhoeddwyd ef o dan weinidogaeth y Parch. David Peter, Caerfyrddin. Yr oedd yn wan ei iechyd yn ieuanc ac arweiniodd hyn ef i geisio meddyginiaeth llysiau, ac ar yr un pryd manteisiodd ar gwmni David Davies, y meddyg brenhinol, a oedd yn enedigol o'r plwyf, a'i dad yn ddiacon yn eglwys Penygraig. Cofia rhai pobl am 'Eli Gravell Cwmfelin.'
Cyhoeddodd o leiaf chwech o lyfrau : Caniadau Seion, 1847, yn cynnwys dros 1,200 o emynau Cymraeg, 21 o anthemau, a nifer o emynau Saesneg; Crist yn Llawn Perlau, sef Egwyddoreg, 1855; Hynafiaethau Cristionogol, sef Hanes yr Eglwys, 1859; Corph o Ddiwinyddiaeth wedi ei Ddethol o Catecism Cymanfa Westminster, 1862; Crefydd Gymdeithasol, neu Gydymaith y Cristion gan y Parch. Mathias Maurice gyda Byrdraeth; Bywyd David Gravell ynghyd a Hanes Eglwys Penygraig, 1865; Athrawiaeth Pabaidd-esgobol yn cael ei Gwrth-brofi, 1871. Ymhlith Caniadau Seion ceir ychydig o emynau cyffredin a diafael ganddo ef ei hun. Cyfrifai ei hun yn henuriad, nid diacon, yn eglwys Annibynnol Penygraig, ac yn ystod ei flynyddoedd olaf parodd ei syniadau am ffurflywodraeth eglwysig lawer o drafferth i'r gweinidog, y Parch. Joseph Jarvis, a bu llawer o godymu, rhyngddo ef a'r Parch. D. Rees, Llanelli, ar yr un mater.
Cymerai ddiddordeb dwfn mewn addysg, ac ef yn bennaf, drwy ei haelioni, a adeiladodd Ysgol Brydeinig yn Idole gerllaw Penygraig.
Bu fyw yng Nghwmfelin ar hyd ei oes yn hen fab gweddw. Bu farw 15 Awst 1872, a'i gladdu ym mynwent Penygraig. Yn ei ewyllys rhannodd ei dai a'i diroedd rhwng ei dylwyth agosaf ym Mhontyberem, Pontyates, a Mynydd y Garreg.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.