Ganwyd yn Rhiwfelen, Abergwili. Symudodd y teulu i Lanegwad ac yn eglwys y Panteg y magwyd y mab, ac yno y dechreuodd bregethu yn 16 oed. Wedi rhyw ddwy flynedd yn ysgol y Parch. David Peter yng Nghaerfyrddin daeth yn weinidog Bethel, Llanddeiniolen, Arfon, cangen o Pendref, Caernarfon, a sefydlasid tua 1810; urddwyd ef yno yn 1815. Priododd ferch y Bryn, Llanfair-is-gaer, ac yno y preswyliai gan ffermio a gweinidogaethu ym Methel a'r cylch. Daeth yn fuan yn ŵr adnabyddus iawn yn y Gogledd ar gyfrif ei waith ynglŷn â chychwyn achosion newyddion ac yn arbennig drwy fyned yn gyfrifol am ddyledion capelau, a hynny yn fynych er treth drom ar ei amgylchiadau. Bu â rhan amlwg yn sefydlu eglwysi Ebeneser, Deiniolen (bu'n weinidog arni, 1822-32, ei gweinidog cyntaf), a Seilo, Porthdinorwig, y bu'n weinidog arni hyd 1851. Bu farw 27 Chwefror 1873, a chladdwyd ef ym mynwent Bethel.
Yn 1849 daethai ei fab hynaf, DAVID GRIFFITH (1823 - 1913), yn gyd- weinidog ag ef ar Seilo a Bethel; ganwyd yn 1823 yn y Bryn, Llanfair-is-gaer; addysgwyd gyda'r Parch. Griffith Hughes, y Cefn, Llanddeiniolen, ac yn Lerpwl. Ef a sefydlodd eglwys Moreia, Porthdinorwig. Yn 1873 symudodd i fod yn weinidog eglwys Dolgellau; ymddeolodd yn 1889 ac aeth i fyw i Ddeganwy ac yn ddiweddarach i Fryntirion, Bethel, lle y bu farw yn 1913; fe'i claddwyd ym mynwent Llanfair-is-gaer. Ef, meddir, oedd y galluocaf o'r teulu. Ymddiddorai mewn llenydda; bu'n golygu Dysgedydd y Plant (1871-8) ac yn gadeirydd Undeb yr Annibynwyr (1890). Cyhoeddodd gyfrol drwchus, Hanes yr Eglwys Gristionogol drwy y Byd, ond er yr holl lafur a olygodd iddo, nid enillodd iddo safle fel hanesydd. Cyhoeddodd hefyd gofiant i David Roberts, Wrecsam.
Bu ei frawd ieuengaf, ROBERT WILLIAM GRIFFITH (1835 - 1894), yn cydweinidogaethu ag ef o 1866 hyd 1873 ym Methel, Seilo, a Moreia; ganwyd ef yn y Bryn, Ionawr 1835. Cafodd ei addysg yn ysgol Porthdinorwig, y Liverpool Institute, ac ysgol y Parch. Evan Harris, yr Wyddgrug. Bu'n amaethu yn y Bryn hyd 1866, pryd yr urddwyd ef yn weinidog; ef a ofalai am yr eglwysi ei hun o 1873 hyd ei farw yn 1894. Daeth yn ŵr amlwg iawn gyda materion gwladol; yn arweinydd Rhyddfrydig yr ardal; 'Tra fu byw, ef a fu'n cynrychioli'r ward ar y cyngor sir … Ni byddai Robert Griffith yn bugeilio, y mae'n debyg mai ef oedd y bugail mwyaf di-lun a fu ar eglwys erioed …' (W. J. Gruffydd, yn Hen Atgofion, 31, 32).O dan ei arweiniad casglwyd digon i godi Ysgol Frutanaidd ym Methel a chael athro trwyddedig wedi cael coleg iddi. Bu'n ysgrifennydd cwrdd chwarter Arfon am 20 mlynedd. Bu farw 30 Rhagfyr 1894.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.