Fe wnaethoch chi chwilio am Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray
Ganwyd (yn 1819 yn ôl Yr Haul, 1885) ym mhlwyf Llanbadarn Fawr, Sir Aberteifi, mab Thomas Griffith. Cafodd ei addysg yn ysgol Ystrad Meurig, ysgol ramadeg Abertawe, a Choleg Crist, Caergrawnt (B.A. 1841, M.A. 1844). Ordeiniwyd ef yn ddiacon yn 1842, yn offeiriad yn 1843; bu'n gurad yn Astbury, gerllaw Congleton, swydd Gaer, 1842-4, a bu'n athro a chaplan teulu yng nghartref Syr Stephen Glynne, barwnig, Penarlâg, Sir y Fflint, 1844-6. Dewiswyd ef yn ficer Aberdâr yn 1846 gan ardalydd Bute; bu yno hyd 1859 pryd y daeth yn rheithor Merthyr Tydfil, lle y bu hyd ei farw, 22 Ebrill 1885.
Y mae'n bosibl na fu i un offeiriad arall yng Nghymru gymaint rhan mewn dadleuon â John Griffith. Gydag Ymneilltuwyr y bu'r anghydweld yn gyntaf, ac yna gyda'i gyd-glerigwyr, ei archddiacon, ei ddeon, a'i esgob. Dechreuodd y cyfnod cythryblus hwn wedi i R. R. W. Lingen, un o'r comisiynwyr a anfonodd y Llywodraeth i archwilio cyflwr addysg yng Nghymru, ymweled ag Aberdâr yn 1847. Aeth John Griffith gyda Lingen i ysgolion Aberdâr, 20 Mawrth 1847, ac ysgrifennodd ato, ar 21 Ebrill yr un flwyddyn, ar gyflwr addysg yn y plwyf; ysgrifennodd hefyd i'r Wasg o dan ffugenw. Cyhoeddwyd adroddiad y comisiynwyr yn 1847 ('Brad y Llyfrau Gleision') a bu protestio cryf trwy'r wlad oherwydd yr ymosodiadau yn yr adroddiad ar Anghydffurfiaeth Cymru ac ar yr iaith Gymraeg. Yr oedd teimladau'n frwd yn Aberdâr gan i'r ficer ieuanc bleidio'r comisiynwyr a dywedyd pethau cas am gyflwr moesol y boblogaeth - y merched yn enwedig. Cynhaliwyd cyfarfodydd protest a bu'r newyddiaduron lleol a chylchgronau'r enwadau yn ymosod yn chwyrn ar John Griffith. Ni chymerodd ef sylw o'r ymosodiadau eithr myned ymlaen gyda'i waith fel offeiriad y plwyf; cynhaliodd y cyfarfod cyntaf erioed gan yr Eglwys yn Hirwaun, ac estyn cylch ei dylanwad trwy adeiladu eglwys yn Heolyfelin (Trecynon) ac ysgol yr eglwys yn Cwmbach.
O dan ffugenw bu'n beirniadu deon a chabidwl Caerloyw am eu bod yn derbyn degwm a rhenti tir yr eglwys yn Aberdâr heb roi dim i'r plwyf yn gyfnewid. Ymhen ychydig fisoedd dechreuodd y deon a'r cabidwl gyfrannu tuag at gynhaliaeth curad yn Aberdâr.
Tua diwedd 1848 troes Griffith i alw sylw at ddiffygion yr Eglwys, gan ei beirniadu am ddewis Saeson uniaith i blwyfi Cymreig a thrwy hynny anwybyddu hawliau'r boblogaeth a siaradai Gymraeg. Ymosodwyd arno gan benafgwyr yr Eglwys, ond daeth teimladau'r Ymneilltuwyr tuag ato yn dynerach. Yn ddiweddarach, yn enwedig yn 1868, trwy siarad mewn cynadleddau eglwyswyr ac erthyglau yn y Wasg, bu'n ymosod ar ormod-defodaeth yng ngwasanaethau'r Eglwys. Condemniwyd ei adroddiadau gan y bernid eu bod yn gwbl anghywir ac yn gamarweiniol. Serch hynny, gwnaeth Griffith wasanaeth mawr i'r Eglwys, ac enillodd serch y bobl oblegid ei ddifrifwch a'i huodledd yn y pulpud, ei gymorth ymarferol pan geid tanchwâu yn y pyllau glo, a'i lwyddiant pan apeliai am gymorth ariannol i'r gweddwon a'r amddifaid. Yr un modd hefyd ym Merthyr pan aeth yno; daeth y rheithor megis ar unwaith yn rhan o fywyd cyhoeddus y dref.
Yr oedd ei agwedd tuag at ddadl fawr wleidyddol ail hanner y ganrif yng Nghymru yn bur nodedig. Pan wahoddwyd ef i annerch cyfarfod cyhoeddus ar gwestiwn datgysylltiad yr Eglwys, atebodd, ar 14 Gorffennaf 1883, ei fod ers blynyddoedd lawer yn credu'n gryf na wnâi dim ond datgysylltiad - gwahanu'r Eglwys oddi wrth y wladwriaeth - wella stad yr Eglwys yng Nghymru.
Pan oedd yn Aberdâr ceisiodd Griffith sefydlu ' Mechanics Institute,' ystafell ddarllen, a llyfrgell a fyddai'n rhoddi llyfrau'n fenthyg (1849), traddododd y gyntaf mewn cyfres o ddarlithiau poblogaidd, ac etholwyd ef ar amryw fyrddau cyhoeddus. Bu'n gyfrifol am adeiladu eglwys S. Elfan a ficerdy Aberdâr. Y mae tuedd i'w gymysgu â John Griffiths (1820 - 1897).
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.