GRIFFITH, JAMES MILO (1843 - 1897), cerflunydd

Enw: James Milo Griffith
Dyddiad geni: 1843
Dyddiad marw: 1897
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cerflunydd
Maes gweithgaredd: Celf a Phensaernïaeth
Awdur: John Oliver Stephens

Ganwyd ar y 11 Mehefin 1843 ym Mhontseli, Penfro, a phrentisiwyd ef dan nawdd yr esgob pan oeddid yn ailadeiladu eglwys gadeiriol Llandaf. Yn 20 oed aeth i ysgol y Royal Academy, Trafalgar Square, Llundain.

Ei brif weithiau, yn y tymor hwn, oedd ' Y Celfau Cain ' ar yr Holborn Viaduct, ' Y Pedwar Efengylydd ' yn eglwys gadeiriol Bryste, a'r ffynnon yn Bridgnorth. Yn 1875 gosodwyd ei ' Flodau Haf ' yng nghastell Margam gan C. M. Talbot. Ar un achlysur derbyniodd y Royal Academy gynifer ag wyth o'i weithiau - sef yr uchafrif a ganiateid. Arddangosai'n rheolaidd yn yr eisteddfod genedlaethol, ac yn 1883 traddododd anerchiad nodedig ar 'Perthynas yr Eisteddfod a Chelfyddyd.' Ei weithiau mwyaf adnabyddus yw cerflun John Batchelor yng Nghaerdydd (1884) a Syr Hugh Owen yng Nghaernarfon (1888). Yn 1885 cynlluniodd y darian arian a gyflwynwyd, ar eu jiwbili, i dywysog a thywysoges Cymru. Enillodd ei fodel o ' Ymdaith Sheridan ' sylw mawr yn ffair Chicago.

Wedi bod yn athro celfyddyd am dymor yn San Francisco dychwelodd i Lundain yn 1896 a bu farw yno, 8 Medi 1897, yn 54 mlwydd oed. Y mae amryw o'i weithiau yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.