BATCHELOR, JOHN (1820 - 1883), dyn busnes a gwleidydd

Enw: John Batchelor
Dyddiad geni: 1820
Dyddiad marw: 1883
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: dyn busnes a gwleidydd
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: Jean Silvan Evans

Ganwyd John Batchelor ar 10 Ebrill 1820 yng Nghasnewydd, yr ail fab o ddeuddeg o blant Benjamin Batchelor (m. 1836), masnachwr coed ac adeiladydd llongau, a'i wraig Anne. Roedd y teulu'n annibynwyr selog.

Daeth John Batchelor dan ddylanwad cyfun crefydd a gwleidyddiaeth flaengar yn gynnar yn ei fywyd. Roedd ei deulu'n gyfeillgar ag arweinydd y Siartwyr, John Frost, fel cyd-aelodau yn Eglwys Annibynnol Hope yng Nghasnewydd lle bedyddiwyd plant Frost a Batchelor rhwng 1813 a 1829, gan gynnwys y baban John yn 1822.

Roedd John Batchelor yn areithiwr dawnus erioed, ac er nad oes tystiolaeth ddogfennol, mae hyn yn ategu traddodiadau iddo siarad ar lwyfannau'r Siartwyr, fel y mae brys y teulu'n peri i'r radicalydd 19 oed ddiflannu o Gasnewydd i ddiogelwch iard longau yn Sunderland yn ystod y cythrwfl a ddilynodd fethiant Gwrthryfel y Siartwyr yn 1839. Roedd John wedi bwrw ei brentisiaeth yn iard longau ei dad, a fu farw pan oedd John yn 16, ac yn Sunderland, un o iardiau mwyaf y wlad, gallai ymarfer y sgiliau a ddysgasai yno. Ymwelodd ag iardiau llongau yn yr Alban hefyd yn ystod y cyfnod hwn, ac aeth i Ganada wedyn lle bu am dair blynedd yn datblygu a rheoli iard longau fawr yn New Brunswick. Ar ôl dychwelyd i Gymru aeth ati i sefydlu busnes yng Nghaerdydd gyda'i frawd iau James Sydney (1824-1915) fel Batchelor Brothers, masnachwyr coed ac adeiladwyr llongau, ar lan Afon Taf yn 1843.

Dyna ddechrau'r rhan ganolog a chwaraeodd John Batchelor wrth greu Caerdydd fodern, gan dorri gafael wleidyddol ac economaidd teulu pwerus Bute, a dod i haeddu'r cerflun hardd yn yr Ais sy'n datgan ei fod yn Gyfaill Rhyddid.

Roedd Batchelor yn wrthwynebydd digyfaddawd i blaid Bute dan arweiniad Ardalydd Bute o Gastell Caerdydd a elwid yn blaid y Castell. Yn etholiad cyffredinol 1852, pan oedd Anghydffurfiaeth Ryddfrydol ar gynnydd fel grym cymdeithasol a gwleidyddol yng Nghymru, torrodd Batchelor dra-arglwyddiaeth wleidyddol Bute trwy arwain ymgyrch i ethol yr Anghydffurfiwr Rhyddfrydol Walter Coffin fel AS Caerdydd, gan ddisodli'r Ceidwadwr John Nicholl a ddaliasai'r sedd dros blaid Bute ers ugain mlynedd. Coffin oedd yr Anghydffurfiwr cyntaf i'w ethol yn AS yng Nghymru, a dyna arwydd o gyfraniad allweddol Batchelor i'r newid cenedlaethol a greodd oruchafiaeth Anghydffurfiaeth Ryddfrydol. Torrodd Batchelor reolaeth Bute dros y fasnach allforio glo yn 1856, pan fu'n brif hyrwyddwr Mesur Seneddol i adeiladu Doc Penarth, ac yn aelod o'r garfan a sefydlodd Ddoc Sych Mount Stuart.

Yn 1850 etholwyd Batchelor a'i gyd-frocer llongau Richard Cory i Gyngor Tref Caerdydd fel cynghorwyr Rhyddfrydol dros Ward y De. Yn sgil estyn yr etholfraint i gynnwys y dosbarth masnachol cynyddol enillodd y Rhyddfrydwyr reolaeth dros y cyngor yn 1853, a phenodwyd Batchelor yn Faer Caerdydd. Llwyddodd yn fuan i sicrhau cyflenwad dŵr glân a system draeniad a charthffosiaeth effeithiol i Gaerdydd ar adeg pan oedd hyd at ddeugain o bobl yn marw o golera bob dydd. Ar y raddfa genedlaethol, ymgyrchodd dros fasnach rydd, yn erbyn diffyndollaeth a'r deddfau ŷd, ac yn erbyn y degwm eglwysig a delid gan Anghydffurfwyr.

Ffynnodd busnes y brodyr Batchelor am rai blynyddoedd, ond erbyn canol y ganrif, wrth i Isambard Kingdom Brunel ddod â Rheilffordd De Cymru i Gaerdydd, bu'n rhaid newid cwrs Afon Taf fel nad oedd bellach yn llifo heibio safle iard Batchelor. Llwyddodd y brodyr i gael safle newydd yn Noc West Bute gan ystad Bute, ond erbyn hynny roedd John Batchelor wedi gelyniaethu'r Butes trwy ethol Walter Coffin, a bu iddynt hwythau daro'r ergyd gyntaf mewn ymgyrch hir i wneud busnes yn anodd iawn iddo. Gan ddangos anffafriaeth agored, gwrthodasant ganiatáu iddo les hirdymor ar y doc, a mynnu cael tenantiaeth flynyddol yn lle. Roedd hyn yn fygythiad mwy parhaol a difrifol i Batchelor na'r weithred bitw a maleisus o iselhau ei ail wraig Fanny trwy wrthod mynediad iddi i agoriad wythnosol gerddi Castell Caerdydd. Roedd y Butes wedi gwahardd holl gefnogwyr Coffin, a neilltuwyd Fanny yn gyhoeddus wrth i weddill ei chwmni fynd i mewn.

Yn ei flynyddoedd cyntaf yng Nghaerdydd, bu Batchelor yn aelod yn Eglwys y Drindod yn Stryd Womanby, capel Annibynnol a ddeilliodd o'r gynulleidfa a sefydlwyd yn 1640 gan y pregethwr radicalaidd William Erbury pan gafodd ei ddiswyddo o'i fywoliaeth yng Nghaerdydd. Roedd Batchelor yn un o garfan a gredai y byddai angen eglwys Annibynnol Saesneg arall yn fuan wrth i Gaerdydd dyfu, ac a adawodd y Drindod, ar delerau cyfeillgar, i ffurfio chwaer eglwys a sefydlodd Eglwys Annibynnol Stryd Siarl ryw ddwy flynedd wedyn. Roedd Batchelor yn un o brif gychwynwyr y fenter a chyfrannodd arian sylweddol. Ceir cofnod yn Archifdy Morgannwg o les dyddiedig Mai 1855 ar gyfer capel i'w adeiladu ar y safle, a'r les i'w dal gan ddwy ferch ifanc Batchelor, Lydia Mary ac Annie Gertrude, a'i frawd James Sydney Batchelor, gyda rhent tir o £25 y flwyddyn.

Dengys cyfrifiad crefyddol 1851 fod John Batchelor yn byw yn ŵr gweddw 30 oed, gyda'r ddwy ferch fach, yn 10 Stryd Siarl, gyferbyn â safle'r capel. Roedd y merched yn blant o'i briodas gyntaf â Hannah Reese, a fu farw yn 1848. Ailbriododd yn hwyrach yn 1851 â Fanny Burder (m. 1909), a ganwyd iddynt ddeg o blant eraill. Parhaodd yn aelod gweithgar o Gyngor Tref Caerdydd nes i'r teulu symud i Benarth, y tu allan i ffiniau'r fwrdeistref, yn 1859.

Roedd gan Batchelor ddiddordeb mawr mewn addysg ar hyd ei fywyd, a chynorthwyodd i sefydlu Ysgol Brydeinig yng Nghaerdydd ar gyfer plant tlawd, ac yn ddiweddarach o lawer, pan orchmynnodd yr Adran Addysg ffurfio Bwrdd Ysgolion yng Nghaerdydd yn 1874, etholwyd Batchelor i'r bwrdd a'i ddewis yn gadeirydd, swydd a ddaliodd nes iddo ymddeol ryw ddeunaw mis cyn ei farwolaeth - er i rai gwyno am ei fod eisoes yn aelod a chadeirydd Bwrdd Ysgolion Penarth. Yn wleidyddol, daliodd i gefnogi'r AS Rhyddfrydol diweddarach, gan i Coffin, a oedd eisoes yn 68 oed pan gafodd ei ethol, wasanaethu am un tymor yn unig. Yn yr etholiad dilynol yn 1857, cefnogodd y Cyrnol Stuart, a ddisgrifiwyd fel dyn da ond fawr o areithiwr. Dywedwyd i Batchelor ddilyn y Cyrnol i bobman gan lwyddo trwy ei huodledd i sicrhau ei ethol yn ddiwrthwynebiad yn yr etholiad hwnnw a sawl un wedyn. Pan ffurfiwyd Cymdeithas Ryddfrydol Caerdydd, etholwyd Batchelor yn unfryd yn llywydd.

Disgrifir Batchelor yng nghyfrifiad 1851 fel masnachwr coed ac adeiladydd llongau yn cyflogi 40 o ddynion, felly roedd Batchelor Brothers yn dal i fod yn fusnes sylweddol yr adeg honno. Ac, yn wir, parhaodd y busnes i ffynnu am rai blynyddoedd eto er gwaethaf gwrthdaro cyson ag asiantau ystad Bute a rhai achosion llys. Tua 1862, derbyniodd Batchelor notis i adael Doc West Bute. Hawliodd iawndal o £27,000, ac anfonwyd yr achos i lys cyflafareddu, ond yn y diwedd ni ddaeth dim ohono. Unwaith eto, symudodd Batchelor ymlaen, y tro hwn i ddatblygu Doc Glanhau Mount Stuart, menter fusnes arall a ffynnodd am ysbaid. Daeth yr ergyd derfynol yn 1873. Roedd Batchelor wedi colli'n drwm ym mhanig masnachol 1866, ac felly nid oedd mewn sefyllfa gadarn. Gwnaeth gais i ymddiriedolwyr Bute am amrywiol ganiatâd yn y doc glanhau a fyddai'n ei gadw rhag mynd i'r wal, ond gwrthodwyd ei gais. Nid oedd dewis ganddo. Gwerthwyd y doc glanhau mewn arwerthiant am leiafbris, ac yn y pen draw fe'i gwerthwyd ymlaen, gyda'r holl ganiatâd a geisiodd Batchelor, am £100,000.

Pan aeth Batchelor yn fethdalwr, cafwyd llifeiriant o barch a hoffter tuag ato gan Ryddfrydwyr ac Anghydffurfwyr. Yng Ngorffennaf 1874, cyflwynwyd iddo'r swm anrhydeddus o £3,700 (a wnaed i fyny i £5,000 yn ddiweddarach). Dywedwyd mewn papurau newydd fod ei enw ynghlwm wrth bron bob mudiad poblogaidd a dyngarol yn y dref, a phwysleisiwyd bod gweithwyr Caerdydd wedi cyfrannu at y gronfa.

Mewn un ymgais olaf i gadw ei fusnes i fynd, yn 1873 cynigiodd Batchelor gynllun gweledigaethol - rhywbeth nas cyflawnwyd tan dros ganrif wedyn gyda Morglawdd Bae Caerdydd yn y 1990au - i adeiladu arglawdd o Gaerdydd i Benarth ar draws aberoedd Taf ac Elái er mwyn creu pymtheg gwaith yn fwy o ofod glanfeydd. Awgrymodd gyfuno cwmnïau dociau, rheilffordd a chamlesi cystadleuol i estyn ardal porthladd Caerdydd a Phenarth, gyda rheolaeth trwy ymddiriedolaeth y porthladd, a'r costiau i'w rhannu rhwng y Butes, y rhai a oedd ynglŷn â dociau Penarth, a Rheilffordd Taff Vale, a adeiladwyd yn wyneb gwrthwynebiad gan y Butes a lle roedd Walter Coffin yn gadeirydd. Gwrthodwyd y cynllun gan 3ydd Ardalydd Bute, ac ymgiliodd Batchelor i fywyd preifat, yn gryf yn feddyliol o hyd ond wedi ei dorri'n gorfforol.

Parhaodd i wneud bywiolaeth fel asiant, a thua 1881 fe'i penodwyd yn Arolygwr Glo i Asiantiaid y Goron. Cyfnod oedd hwn pan fyddai papurau newydd gwrthwynebus yn wleidyddol yn mynegi eu safbwyntiau pleidiol yn ddiflewyn-ar-dafod. Cefnogid y Rhyddfrydwyr gan y South Wales Daily News a'r South Wales Echo dan reolaeth y Rhyddfrydwr Albanaidd a Phresbyteriad selog David Duncan (1811-1888), a'r Ceidwadwyr gan y Western Mail ac Evening Express y Tori o Swydd Efrog Lascelles Carr. Mewn rhyfel geiriau nodweddiadol o'r ymosodiadau chwerw a ddioddefodd Batchelor drwy gydol ei fywyd, soniodd y Western Mail am 'a piece of political jobbery'. Gofynnwyd cwestiwn ar y mater yn Nhŷ'r Cyffredin yn Ebrill 1882 ond cafwyd ateb ffafriol i Batchelor a chadwodd y swydd tan ei farwolaeth.

Bu John Batchelor farw o strôc ar 29 Mai 1883. Ymlwybrodd yr orymdaith angladdol yr holl ffordd o Upper Cliff ym Mhenarth i Fynwent Cathays, a chynyddodd y torfeydd nes bod miloedd o bobl yn Heol y Santes Fair. Ymhlith y teyrngedau diffuant, rhoddodd y Western Mail ei elyniaeth arferol o'r neilltu gan glodfori Batchelor fel 'an active, industrious man of business, and a capable and sagacious political leader'.

Buan y cafwyd sôn am gerflun. Codwyd £1,000 trwy danysgrifiadau a dadorchuddiwyd y cerflun, o waith y cerflunydd James Milo Griffith, gerbron torf o 5,000 yn Hydref 1886. Roedd y safle gwreiddiol a ddewiswyd ar gyfer y cerflun yn un awyddocaol, gyferbyn â'r Llyfrgell Rydd yn yr Ais, y bu Batchelor yn ymgyrchu drosti yn wyneb gwrthwynebiad gan ystad Bute, ond cafodd ei symud fwy nag unwaith ers hynny. Yn y seremoni ddadorchuddio, soniodd ei hen gyd-gynghorwr tref Richard Cory am ddyddiau cynnar Batchelor yng Nghaerdydd, a chan adlewyrchu ei gefnogaeth i'r Siartwyr yn ei ieuenctid, cofiodd am yr adeg y bu wrth y gwaith anrhydeddus o bwyso am 'six points of the Great Charter - the Charter to remove the disabilities and enfranchise the people'. Dyna rywbeth, meddai Cory, a wnaeth hyd yn oed yn ddiweddarach yn ei fywyd dan berygl nid yn unig golli ei safle a'i enw da ond hefyd 'actual transportation'.

Cafodd y difenwi chwerw rhwng pleidiau a phapurau a fu yn ystod bywyd Batchelor ei drosglwyddo wedyn i'r cerflun. Awdurdodwyd y cerflun gan Gyngor Tref Caerdydd dan reolaeth y Rhyddfrydwyr. Ymhen ychydig fisoedd, trefnodd aelodau Ceidwadol y Cyngor ddeiseb i gael gwared â'r cerflun, gan honni na ddylai cofeb i ffigwr gwleidyddol mor ddadleuol gael ei arddangos mewn lle cyhoeddus. Gwrthodwyd y ddeiseb gan y Cyngor ac wedyn cafodd y cerflun ei fandaleiddio â phaent melyn a thar gan y Ceidwadwr William Thorn.

Achos cwyn arall gan yr wrthblaid Geidwadol oedd epithet Batchelor ar blinth y cerflun, 'Friend of Freedom'. Mewn llythyr a gyhoeddwyd gan y Ceidwadwr rhonc a chyfrannwr cyson i'r Western Mail T. H. Ensor - ac sy'n fyw o hyd mewn cyfraith enllib heddiw - cynigiwyd disgrifiadau amgen crafog: 'traitor to the Crown... hater of the clergy... sincerely mourned by unpaid creditors'. Cafodd y golygydd Lascelles Carr a'r llythyrwr Ensor eu herlyn am enllib troseddol mewn achos enwog a osododd gynsail enllib. Datganodd y barnwr, 'the dead have no rights and suffer no wrongs' a gorchmynnodd i'r rheithgor ddyfarnu o blaid yr amddiffynwyr. Cafodd dau o feibion Batchelor, Cyril a Llewellyn, eu dirwyo ychydig wedyn am ymosod ar Lascelles Carr ar Orsaf Caerdydd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2022-03-16

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.