GRUFFYDD, JEREMY (neu IEUAN) ('Teiliwr Llawen'), bardd a flodeuai tua chanol y 17eg ganrif.

Enw: Jeremy Gruffydd
Ffugenw: Teiliwr Llawen
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: Griffith Milwyn Griffiths

Disgrifir ef fel o blwyf Cerrig y Drudion, sir Ddinbych. Dywedir bod peth o'i waith yng nghasgliad Ffoulke Owen, Cerdd Lyfr, 1686. Ceir cerdd o'i eiddo yn T. Jones, Carolau a Dyriau Duwiol, 1696, a pheth o'i waith yn NLW MS 5545B a Cwrtmawr MS 127B .

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.