Ganwyd 6 Chwefror 1840 yn Llanidloes yn fab i'r crydd Meredith Hamer a'i wraig Ann. Bu'n ysgolfeistr yn Snatchwood, Talywain (1867), ac Abersychan (1875), sir Fynwy. Dychwelodd i Lanidloes yn 1878 ac ymhen ychydig flynyddoedd aeth i Birmingham.
Ei waith cyntaf oedd The Chartist Outbreak at Llanidloes, a gyhoeddwyd yn 1867. Ysgrifennodd i Archaeologia Cambrensis (e.e. ' Earthworks of Ancient Arwystli ') ac i Montgomeryshire Collections (e.e., ' Parochial History of Llangurig,' 1869-70); ditto, ' Llanidloes,' 1871-8; ditto, ' Trefeglwys,' 1879, eithr ni chwplaodd mo'r olaf. Bu'n helpu'r Parch. W. V. Lloyd gyda nodiadau'r gwr hwnnw ar siryfion sir Drefaldwyn (yn Mont. Coll.) a'r Chevalier J. Y. W. Lloyd gyda'i History of Powys Fadog 1881-7.
Bu farw yn Bordesley, Birmingham, 24 Tachwedd 1911 yn 72 oed.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/