Ganwyd 16 Medi 1747 yn Nantllymystyn, Llansantffraid, Maesyfed, mab i John a Winifred Harries. Cyfansoddodd donau ac anthemau. Anfonodd ei dôn ' Babel ' i eisteddfod y Trallwng 1824 ond ni chafodd y wobr. Ceir hi yn Caniadau Seion (Mills). Yn yr Atodiad i'r Caniadau Seion y mae ' O Dduw gwared Israel ' o'i waith, ac, yn Cerddor y Cymry, garol Nadolig - ' Cyduned bob Cristion.' Yr hyn â'i henwogodd fel cerddor oedd ei anthem ' Par imi wybod dy ffyrdd,' a fu yn boblogaidd hyd at ddechrau'r 20fed ganrif. Trefnwyd yr anthem gan ' Ieuan Gwyllt,' ac ymddangosodd yn Y Cerddor Cymreig, rhif. 82-3, ac yn Llyfr Anthemau a Salm-donau (' Alaw Ddu '). Yn 1824 symudodd i fyw at ei ferch i Garno, Sir Drefaldwyn, ac yno y bu hyd ei farwolaeth, 6 Ionawr 1834. Claddwyd ef ym mynwent eglwys Carno.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.