Ganwyd 9 Mehefin 1800 ym mhlwyf Llanbedr Efelffre, Sir Benfro. Collodd ei dad yn ifanc, a chyda'i daid y magwyd ef a'i dri brawd; cawsant addysg dda. Yn eglwys Henllan y derbyniwyd ef yn aelod yn 17 oed, ac yno y dechreuodd bregethu. Drwy gymorth yr arglwyddes Barham, a gymerai ddiddordeb ynddo, aeth i goleg Newport Pagnell, swydd Buckingham, yn 1822. Urddwyd ef yn weinidog eglwys Annibynnol Banbury, 25 Ebrill 1827; symudodd oddi yno 15 Awst 1832 i ofalu am eglwys New Broad Street, Llundain, lle y bu hyd ei farwolaeth 22 Hydref 1842; claddwyd ef ym mynwent Abney Park, Llundain. Yr oedd ef a Caleb Morris yn gyfeillion mynwesol.
Yn 1832 cyhoeddodd gyfrol o 12 darlith ar berson Crist dan y teitl What think ye of Christ? Ei bennaf ddiddordeb oedd y mudiad heddwch; yn 1837 daeth yn gyd-ysgrifennydd i'r Gymdeithas Heddwch a bu'n golygu The Herald of Peace. Gweithiodd hefyd lawer dros y Morafiaid.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.