HERBERT, HENRY (1617 - 1656), milwr ym mhlaid y Senedd a gwleidydd

Enw: Henry Herbert
Dyddiad geni: 1617
Dyddiad marw: 1656
Priod: Mary Herbert (née Rudyard)
Rhiant: Elizabeth Herbert (née Somerset)
Rhiant: William Herbert
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: milwr ym mhlaid y Senedd a gwleidydd
Maes gweithgaredd: Milwrol; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: Arthur Herbert Dodd

Mab hynaf William Herbert, Coldbrook, sir Fynwy, a'r 6ed o ran disgyniad oddi wrth William Herbert (bu farw 1469), iarll 1af Pembroke. Buasai ei daid, ei hen-daid, a'i or-or-ewythr, Syr William Herbert (bu farw 1593), yn cynrychioli sir Fynwy yn y Senedd a chafodd yntau ei ethol (31 Mawrth 1642) yn aelod dros y sir i'r sedd yn y Senedd Hir a ddaeth yn wag pan fu Syr Charles Williams, Llangibby, farw. Yr oedd wedi bod yn Magdalen Hall, Rhydychen (ymaelodi ar 10 Hydref 1634) ac yn y Middle Temple. Brenhinwyr oedd ei deulu bron i gyd eithr yr oedd ei briodas â Mary, merch John Rudyard, groser, Llundain, cefnder i Syr Benjamin Rudyard (arweinydd yr wrthblaid), ac, efallai, rhyw wanc am diroedd y Raglaniaid a fuasai'n eiddo i'w hynafiaid, yn ei wneuthur yn Bengrwn. Ceisiodd, eithr yn ofer, leihau dylanwad Pabyddol y Raglaniaid yn ei sir, cadwodd ei sedd yn Westminster hyd y daeth y Senedd Faith i ben, a chymerth y 'Covenant' (22 Medi 1643).

Bu'n gwasanaethu fel cyrnol ym myddin y Senedd yn Ne Cymru, gan gymryd Caerdydd ac Abertawe (Medi 1645); yr oedd ar bwyllgor y Senedd dros y sir yn 1646 ac fe'i dewiswyd (Awst 1645) yn gomisiynwr gyda'r fyddin yn Sgotland. Yn 1646 gwnaethpwyd ei dad yn gapten gwyr ar feirch ym myddin y Senedd a rhoddwyd iddo yntau ei hunan £3,000 allan o elw fforestydd iarll Worcester yn iawn-dâl am ei dreuliau yng ngwasanaeth y Senedd. Yn ystod yr 'Interregnum' bu'n aelod o'r uchel lys barn ('High Court of Justice,' 25 Mehefin 1651), o'r pedwerydd gyngor gwladol ('Council of State,' 19 Tachwedd 1651) ac ar amryw o'i bwyllgorau; bu'n gomisiynwr trethi'r llywodraeth (1647-52) a'r milisia (1654) yn sir Fynwy ac yn aelod dros y sir honno yn Senedd gyntaf y 'Protectorate' (12 Gorffennaf 1654).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.