Ganwyd yn Gelli Ffrydau, Baladeulyn, Arfon, Hydref 1858, mab William ac Ann Mary Hobley. Bu mewn dwy ysgol breifat yng Nghaernarfon (symudasai'r teulu i fyw yno), sef eiddo John Evans a J. H. Bransby, ac o'r ddiwethaf, yn 15 oed, aeth i Goleg y Brifysgol, Aberystwyth, lle y bu am bedair blynedd; ni chymerodd radd. O Aberystwyth aeth i Goleg y Bala, o dan Dr. Lewis Edwards. Yno darllenodd yn eang a dechreuodd wneud astudiaeth o gyfriniaeth Gristnogol. Ordeiniwyd ef yn 1882 ac aeth yn weinidog i Bwcle, Sir y Fflint, lle bu am 11 mlynedd. Dyma ei unig ofalaeth fugeiliol; yr oedd yn annibynnol ei amgylchiadau, ac wedi ymneilltuo o Bwcle bu'n byw yng Nghaernarfon a'r cylch weddill ei oes, gan bregethu yn gyson a darllen llawer. Bu ganddo ysgrifau yn Y Traethodydd a'r Geninen ar Ddaniel Owen, ac atgofion ac argraffiadau am eraill yn Sir y Fflint, ysgrifau yn dangos llawer o fedr i ddarlunio cymeriadau ac o sylwadaeth graff iawn. Ei brif waith llenyddol oedd Hanes Methodistiaeth Arfon, yn chwe cyfrol, a gyhoeddwyd rhwng 1910 a 1924, a'r Ddarlith Davies, Athrawiaeth Cyferbyniad (1925), astudiaeth o waith a dysgeidiaeth y cyfrinwyr. Bu farw yn y Ceunant, ger Caernarfon, 9 Ebrill 1933. Yr oedd yn ddibriod.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.