HOPCYN, WILIAM (1700 - 1741), bardd

Enw: Wiliam Hopcyn
Dyddiad geni: 1700
Dyddiad marw: 1741
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: Griffith John Williams

o Langynwyd yn Nhir Iarll, na wyddom odid ddim amdano. Mynnai ‘Iolo Morganwg’ yn ei hen ddyddiau mai ef oedd y gŵr o'r enw hwnnw a gladdwyd yno yn 1741, a derbyniwyd y farn hon gan wŷr y ganrif ddiwethaf. Dywedid hefyd ei fod yn dowr ac yn blastrwr. Er hynny, haerai ‘Iolo’ yn ei ddyddiau bore eu bod ill dau yn gyd-ddisgyblion yng ‘Nghadair Morgannwg’ yn 1760. Ni ellir bod yn sicr ond o un peth, sef i ŵr o'r enw ‘Will Hopkin’ ganu sen i'r prydyddion yn eisteddfod y Cymer yn 1735. Yn ôl ‘Iolo,’ yr oedd yn enwog fel bardd serch, ac ef a ddywedodd mai Wil Hopcyn ydoedd awdur y gân ‘Bugeilio'r Gwenith Gwyn.’ Y mae'n bosibl fod yma gnewyllyn o hen ganu, ond gellir tybied mai ‘Iolo’ ei hun piau hi fel cân orffenedig. Tua 1845, dechreuodd ‘Taliesin ab Iolo’ adrodd y stori am helyntion carwriaethol Wil Hopcyn ac Ann Thomas, y ferch o Gefn Ydfa, a chysylltu'r gân ‘Bugeilio'r Gwenith Gwyn’ â'r traddodiad hwnnw. Yna ymroes Mrs. Pendrill Llewelyn, gwraig ficer Llangynwyd, i gasglu penillion a thribannau traddodiadol Tir Iarll, a honni mai gwaith Wil oeddynt, a bod llawer ohonynt yn ymwneud â helynt Cefn Ydfa. Mewn gwirionedd, ni wyddom ddim am Wil Hopcyn ond iddo ganu sen i'r prydyddion yn eisteddfod y Cymer yn 1735. Nid oes gennym gynifer ag un gan, nac yn wir, gynifer ag un pennill, y gellir teimlo'n sicr mai ef a'i cyfansoddodd. [ Gweler dan Madocks, Ann. ]

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/