Ganwyd hi ym 1704 (bedyddiwyd 8 Mai), yn ferch i William Thomas o Gefn Ydfa, Llangynwyd, a'i wraig Catherine Price, Tyn-ton, Llangeinwr - chwaer i Rees Price, tad yr athronydd Richard Price; priodwyd hwy 30 Mawrth 1703. Bu William Thomas farw yn 1706 (claddwyd ar 14 Mai); yn ôl y chwedl am y 'Ferch,' yr oedd wedi rhoi Ann, ei aeres, dan awdurdod cyfreithiwr o'r enw Anthony Maddocks o Gwmrisga, a gorfododd hwnnw hi i briodi ei fab ef ei hunan. Ond nid oes air am hyn yn ewyllys William Thomas. Gwir i Ann briodi Anthony Maddocks (ieu.) ar 4 Mai 1725, ac y mae eu cytundeb priodas ar gael. Bu hi farw yn 1727 (claddwyd ar 6 Mehefin). Adroddir y ffeithiau hyn yn gywir gan T. C. Evans ('Cadrawd') yn ei Hist. of Llangynwyd; ond plethwyd iddynt chwedl na lwyddwyd i ddod o hyd i unrhyw sail iddi, fod carwriaeth rhwng Ann a'r bardd ' Wil Hopcyn '), iddo ganu iddi'r gân enwog ' Bugeilio'r Gwenith Gwyn,' ac iddi hithau farw o dor calon. Ymdriniwyd yn drwyadl â'r chwedl hon yn Y Llenor, 1927 a 1928, gan G. J. Williams - gweler hefyd ei lyfr, Traddodiad Llenyddol Morgannwg, 251-9.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.