HUGHES, DAVID (1813 - 1872), gweinidog gyda'r Annibynwyr, ac awdur

Enw: David Hughes
Dyddiad geni: 1813
Dyddiad marw: 1872
Rhiant: Anne Hughes
Rhiant: Hugh Hughes
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Annibynwyr, ac awdur
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd 21 Mehefin 1813 yn y Cefn-uchaf, Llanddeiniolen, Arfon, yn fab i Hugh ac Anne Hughes. Dechreuodd bregethu (yn eglwys Bethel) yn 19 oed, ac aeth i goleg Hackney, Llundain, ac oddi yno i Glasgow; dywedir iddo gael gradd B.A. yn Glasgow (nid cyn 1862 y peidiodd Glasgow â rhoi'r radd honno), a digon tebyg fod hynny'n wir, serch nad ymddengys ei enw ef yn rhestr argraffedig graddedigion y brifysgol. Urddwyd ef yn 1841 yn Llansantsior a Moelfre (sir Ddinbych), a bu yno hyd 1845; yr oedd â gofal Llanelwy arno am gyfnod hyd 1846. Cymerth ofal eglwys Great Jackson Street, Manceinion, o Orffennaf 1846 hyd Fai 1847, pan symudodd i Fangor i fyw ar gadw ysgol, heb ofalaeth eglwys (ond pregethu'n achlysurol); sgrifennai lawer hefyd i'r Wasg. Ailgydiodd yn y weinidogaeth sefydlog, fis Tachwedd 1855, yn Saron, Tredegar, ac yno y bu farw, 3 Mehefin 1872, a'i gladdu yno. Amlwg mai ysgolheigaidd oedd ei anian; casglodd lyfrgell fawr, a sgrifennodd gryn nifer o ysgrifau'r Gwyddoniadur. Cyhoeddodd (Bangor, 1852) Geiriadur Ysgrythrol a Duwinyddol, a aeth i ail argraffiad - y gyfrol gyntaf yn 1876 dan olygyddiaeth 'Ioan Pedr' (John Peter), a'r ail yn 1879 dan olygyddiaeth Thomas Lewis (1837 - 1892). Cyhoeddodd David Hughes hefyd, 1859, lyfr ar Elfenau Daearyddiaeth, a golygodd yr ail argraffiad, gyda chwanegiadau, 1861-4, o eiriadur 'Caerfallwch' (Thomas Edwards).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.