HUGHES, EVAN ('Hughes Fawr '; bu farw 1800), curad ac awdur

Enw: Evan Hughes
Ffugenw: Hughes Fawr
Dyddiad marw: 1800
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: curad ac awdur
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Robert (Bob) Owen

Brodor o Llangeitho ydoedd, medd rhai. Bu'n gurad yn Llaniestyn, Llandegwning, Penllech yn Llŷn, 1762-4, a Llanfihangel-y-pennant, Eifionydd, 1772-9. Arferai bregethu yn y mynwentydd yn y lleoedd hyn gan fod nifer y rhai a ddeuai i'w wrando yn fwy nag a allai fynd i mewn i'r eglwysi. Yr oedd yn bleidiol iawn i'r ysgolion cylchynol a gynhelid yn Llŷn ac Eifionydd, ac ysgrifennodd at Madam (Bridget) Bevan yn 1773 yn dwyn tystiolaeth i'w llwyddiant a gofyn am estyniad tymor yr ysgol yn Llanfihangel-y-pennant. Gallai ateb cwestiynau esgob Bangor ar ei ymweliad yn 1776 a dywedyd bod 70 yn cymuno bob mis yn Llanfihangel a thua 200 y Pasg. Yr oedd yn gyfeillgar â Robert Jones, Rhoslan. Yn 1779 symudodd i fod yn gurad yn Ysbyty Ifan, a thra bu yno pregethai yn aml yng nghartrefi Methodistiaid. Tua'r flwyddyn 1783 aeth i Drawsfynydd yn gurad ac, ar 23 Mehefin 1792, i Llanuwchllyn, lle y bu farw tua chanol mis Mai 1800. Cyhoeddodd Duwdod Crist, 1777, a Rhai Hymnau Newyddion o Fawl i'r Oen, 1783. Ceir rhai emynau o'i waith mewn llawysgrifau (e.e. yn rhai o ysgriflyfrau ' Dafydd Sion Siams ').

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.