HUGHES, EZEKIEL (1766 - 1849), arloeswr ymfudo i orllewin U.D.A.

Enw: Ezekiel Hughes
Dyddiad geni: 1766
Dyddiad marw: 1849
Priod: Margaret Hughes (née Bebb)
Rhiant: Richard Hughes
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: arloeswr ymfudo i orllewin U.D.A.
Maes gweithgaredd: Teithio
Awdur: William Ambrose Bebb

Ganwyd 22 Awst 1766, mab Richard Hughes, Cwm Carnedd Uchaf, Llanbrynmair. Ymddengys iddo dderbyn rhyw gymaint o addysg yn Amwythig. Yn 20 oed, ymrwymodd i fod yn brentis i John Tibbott, y clociwr o'r Dre Newydd. Wedi gorffen ei brentisiaeth, symudodd i Fachynlleth i agor gweithdy clociau ar ei gyfrifoldeb ei hun (1789), pryd y daeth dan ddylanwad William Jones, Llangadfan. Ganol Gorffennaf 1795, gydag Edward Bebb, George Roberts, ac eraill, gadawodd Lanbrynmair, cerddodd i Gaerfyrddin, ac, yn y diwedd, i Fryste; ar 6 Awst hwyliasant yn y llong 'Maria' am Philadelphia, gan gyrraedd ar 25 Hydref, a threulio'r gaeaf yn y ddinas. Yn y gwanwyn dilynol, cychwynodd ef ac Edward Bebb ac un arall i daith hir i gyfeiriad afon Ohio. Ar ben tri mis, daethant i dref Cincinnati, 'tua'r un faint â Machynlleth ' ar y pryd. Prynwyd tir cyfleus ger afon Miami, heb fod nepell o'r Paddy's Run. Cododd Hughes gaban, a dechrau arloesi'r tir, a sefydlu, ef a'i gefnder Edward Bebb. Yn Medi 1802 dychwelodd i Gymru, a phriododd â Margaret Bebb, Bryn Aeron, Llanbrynmair (Mai 1803). Aeth eilwaith i America, lle bu farw ei wraig ar ben blwyddyn a'i chladdu yn y bedd cyntaf ym mynwent Berea. Ymhen amser, ailbriododd Hughes â Mary Ewing (1808), a ganed iddynt naw o blant. O dro i dro, gosodwyd arno swydd o gyfrifoldeb; e.e. yn 1805, i gynllunio ffordd newydd o'r afon Miami at dref Hamilton. Fe'i gwnaed hefyd yn ustus heddwch, y cyntaf yn ei ardal, swydd a lanwodd yn hir gyda ffyddlondeb a thiriondeb. Prynasai lawer o dir yn nhreigl y blynyddoedd, ac fe'i gosododd ar brydles ar delerau rhesymol. Yn 1822 adeiladwyd capel a ddaeth yn eglwys i'r broydd o gwmpas. Yr oedd un o lywyddion yr Unol Daleithiau, sef Harrison, yn gyfaill mawr iddo, a dysgent ynghyd yn yr un ysgol Sul.

Bu Hughes yn ffyddlon iawn ei wasanaeth mewn byd ac eglwys, er gwaethaf y cloffni a ddaeth arno yn ei flynyddoedd diwethaf. Heblaw codi capel, ef hefyd a gynhaliai'r weinidogaeth i raddau helaeth. Bu farw ar brynhawn Sul, yr ail o Fedi 1849, a'i gladdu drannoeth - gan gael ei ddisgrifio fel gŵr a oedd yn 'gyfaill y tlawd, gwir wladgarwr, a Christion ffyddlon.'

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.