Ganwyd yn Bron-y-llan, Mochtre, Sir Drefaldwyn, 11 Chwefror 1769, brawd i John Roberts, Llanbrynmair. Bu'n gweithio ar ffermydd o gylch Llanbrynmair hyd Orffennaf 1795, pryd yr ymfudodd i America. Ffwdanus fu hanes cyrraedd llong o Fryste iddo ef a'i gyfeillion a'u teuluoedd oherwydd gorfod â phob ystryw geisio osgoi syrthio i ddwylo 'press-gangs' a oedd ar gerdded er cymryd dynion i'r fyddin. Llwyddasant i hwylio ddechrau Awst, yn gwmni o 50, yn Gymry i gyd oddigerth tri, a glaniasant yn Philadelphia 26 Hydref. Yn fuan daeth George Roberts yn ŵr o safle a chyfrifoldeb yn Ebensburg lle'r oedd nifer mawr o Gymry wedi ymsefydlu. Sefydlodd gymdeithas Gymreig o'r enw ' The Cambrian Settlement ' ym Mhennsylfania a bu bri mawr arni. Perswadiwyd ef i ddechrau pregethu a daeth yn weinidog defnyddiol yno. Penodwyd ef yn un o ddau farnwr dros y rhanbarth a daliodd y swydd am 31 mlynedd. Yn 1834 cyhoeddodd gyfieithiad Saesneg o Drych y Prif Oesoedd (Theophilus Evans) o dan y teitl A View of Primitive Ages. Bu farw fis Tachwedd 1853.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Bellach, argraffwyd ei hunangofiant yn y Cofiadur, 1952, 37-60, gan I. C. Peate , a llythyrau ganddo yn Pennsylvania History, Ebrill 1955, 134-45. Gweler hefyd D. Jones, Welsh Congregationalists in Pennsylvania, Utica N.Y., 1934.
Dyddiad cyhoeddi: 1970
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.