Ganwyd yn Llannor, Sir Gaernarfon, 1778. Gwasanaethodd fel garddwr yn Abererch a Lerpwl, lle y daeth, drwy gyfrwng ei frawd Robert, a oedd yn bregethwr cynorthwyol gyda hwy, i gysylltiad â'r Wesleaid, ac ymunodd â'r seiat yn 1805; yn yr un flwyddyn aeth ei frawd, Griffith, i'r weinidogaeth Wesleaidd. Dechreuodd yntau ar ei weinidogaeth yn 1807, a theithiodd ar gylchdeithiau Dolgellau (1807), Aberystwyth (1808), Llanfyllin (1809), Dinbych (1811), Aberhonddu (1812), Llandeilo (1814), Caerfyrddin (1815), Caerdydd (1817), Machynlleth (1819), Caernarfon (1821), Dinbych a Llanrwst (1824), Llanidloes (1826), Caerfyrddin (1828), Aberhonddu (1831), Abertawy (1834), Merthyr (1837), a Chaerfyrddin (1840). Bu'n gadeirydd talaith Gymraeg Deau Cymru (1828-43), ac ef oedd y gweinidog Cymraeg cyntaf i'w ethol i Gant Cyfreithiol cynhadledd ei gyfundeb (1834). Wedi ymneilltuo yn 1843 ymsefydlodd yng Nghaerfyrddin, lle bu farw 17 Rhagfyr 1855.
Cafodd y fraint o gychwyn llawer achos newydd a bu'n llwyddiannus iawn fel gweinidog. Ysgrifennodd yn helaeth i'r Eurgrawn Wesleyaidd a bu'n ei olygu am gyfnod (1819-21). Ef a'r Parch. John Williams ' yr ail ' oedd awduron Y Goleuad Dwyreiniol, 1827, a chyfieithwyr Nodiadau John Wesley ar y Testament Newydd, 1831. Ysgrifennodd ei hunangofiant, a chyhoeddwyd ef ar ôl ei farwolaeth dan olygiaeth ei fab-yng-nghyfraith, Isaac Jenkins.
Mab iddo oedd JOHN HUGHES, meddyg, crwner, ac ustus heddwch yng Nghaerfyrddin, a thad Hugh Price Hughes; merch iddo oedd gwraig Isaac Jenkins; bu ei ddau blentyn arall farw, y naill yn faban a'r llall, Hugh, yn 27 oed.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.