Ganwyd yn y Garreg Lefn, plwyf Llanbadrig, Môn. Llafurwr amaethyddol oedd ei dad, a bu yntau yn gweini ar ffermydd am ysbaid cyn myned i Fangor yn was saer maen. Ym Mangor daeth dan ddylanwad gŵr arall o Fôn, ' Gweirydd ap Rhys ', a dechreuodd ei ddiwyllio ei hun. Yn 1866 ymunodd â heddlu sir Gaernarfon, ond ymddiswyddodd tua 1869 pan benodwyd ef yn is-olygydd Yr Herald Cymraeg yng Nghaernarfon. 'Fe deimlwyd yn union,' medd ' Alafon,' ' fod dawn ac ysbryd newydd wedi dechrau gweithredu ar a thrwy yr hen newyddiadur parchus,' o'r adeg yr ymunodd ' Alfardd ' â'r staff. Cymerodd ran amlwg yn y mudiad i sicrhau barnwyr yn medru Cymraeg yn y llysoedd sirol yng Nghymru, a bu'n gweithio hefyd i ddiwygio'r eisteddfod genedlaethol a'r Orsedd. Bu farw 8 Ionawr 1875, a'i gladdu ym mynwent Glanadda, Bangor. Er byrred ei yrfa fel gŵr cyhoeddus, gadawodd argraff ddofn ar feddyliau y rhai a ddaeth i gyffyrddiad ag ef.
Gweler Cofiant gan Owen Jones.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.