Ganwyd 20 Mai 1787 yn Abergele. Wedi blwyddyn a hanner o addysg elfennol yn Abergele, prentisiwyd ef yn ddilledydd, a dilynodd y gorchwyl hwnnw mewn amryw fannau. Un o aelodau cyntaf seiat Wesleaidd Abergele (1802), yr oedd yn flaenor yn 16 oed, a dechreuodd bregethu yn 1806. Wedi cynhadledd 1808, galwyd ef i'r weinidogaeth deithiol a threuliodd weddill y flwyddyn gyfundebol honno ar gylchdaith Llangollen. Wedi hynny bu ar y cylchdeithiau hyn: Llanidloes (1809), Aberystwyth (1810), Aberhonddu (1812), Merthyr (1814), Aberteifi (1816, gan drigo yn Nhŷddewi), Caerfyrddin a Llandeilo (1818), Rhuthyn a Llangollen (1820), Biwmares (1822), Pwllheli (1824), Dolgellau (1826), Holywell (1828), Llanfyllin (1830), Llanrwst (1832), Llangollen (1834), Biwmares (1837), Dolgellau (1839), Machynlleth (1841), Aberhonddu (1843), Abertawy (1846), a Lerpwl (1849). Priododd (1) 1816, Jennett Jones, Aberhonddu (bu farw 1856), (2) 1857, Mrs. Elizabeth Evans (bu farw 1872). Ymneilltuodd o'r weinidogaeth reolaidd yn 1850. Bu farw yng Nghaer 13 Gorffennaf 1873.
Dywaid ei gofiannydd ei fod 'yn bregethwr profiadol, a melus, a llwyddianus iawn …' Cofiai flynyddoedd cynnar Wesleaeth Gymraeg, a chyhoeddodd gyfres faith o ysgrifau yn yr Eurgrawn Wesleaidd rhwng 1860 ac 1872 yn rhoddi 'Trem ar Ddechreuad a Sefyllfa yr Achos' mewn gwahanol leoedd, sydd o werth mawr i bob hanesydd Wesleaidd. Cafodd help gan amryw eraill wrth gasglu'r defnyddiau a chaboli arddull yr ysgrifau, ond ef oedd pennaf symbylydd y gyfres. Cyhoeddwyd mynegai iddynt, gan Richard Prichard, fel atodiad i Eurgrawn 1872. Ar wahân i'r 'Tremau' cyhoeddwyd llawer o'i waith yn yr Eurgrawn o dro i dro. Ysgrifennodd ei 'Hunangofiant' hefyd, ac er nas cyhoeddwyd, fe'i defnyddiwyd yn helaeth gan 'Gwyllt y Mynydd' wrth baratoi ei 'Cofiant' ar gyfer Yr Eurgrawn.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.