EVANS, WILLIAM HUGH ('Gwyllt y Mynydd'; 1831-1909), gweinidog gyda'r Wesleaid, a llenor

Enw: William Hugh Evans
Ffugenw: Gwyllt Y Mynydd
Dyddiad geni: 1831
Dyddiad marw: 1909
Plentyn: William Owen Evans
Rhiant: John Evans
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Wesleaid, a llenor
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awduron: Edward Tegla Davies, Robert Thomas Jenkins

Mab i ' Ioan Tachwedd ' (John Evans, 1790 - 1856), a brawd i ' Cynfaen ' (John Hugh Evans). Ganwyd ef yn y Maenllwyd Mawr, Ysgeifiog, 13 Ionawr 1831; gadawodd yr ysgol yn fore am na fynnai ei dad iddo ddysgu catecism yr Eglwys Sefydledig. Dechreuodd bregethu yn 1850, derbyniwyd i'r weinidogaeth yn 1855, a galwyd i waith cylchdaith Caergybi yn 1856. Gwasnaethodd gylchdeithiau Caernarfon, Abergele, Biwmares, Llanfair Caereinion, Dinbych (a'r Rhyl), Llangollen, Dolgellau, yr Wyddgrug, Llanrwst, Porthmadog, Abermaw, Lerpwl (Shaw Street), Bagillt, a'r Rhyl - yno yr ymneilltuodd (1895). Cododd achos newydd yn Nolwyddelan, a chapelau newydd ym Mhorth-y-Gest a'r Rhyl (Soar). Gadawodd bob un o'i gylchdeithiau â chynnydd yn ei haelodau. Bu'n foddion i sefydlu cynghorau Wesleaidd, gan rannu'r dalaith yn adrannau; a sefydlodd gynadleddau ysgolion Sul. Yr oedd yn wleidydd eiddgar - mewn cyfnod pan wgai ei enwad ar hynny; bu ganddo ran amlwg yn sefydlu'r Ysgol Fwrdd yn Llangollen (1870), a chondemniai'r rhyfel â'r Boëriaid. Yr oedd hefyd yn sgrifennwr diwyd. Cyfrannodd i'r Eurgrawn am 60 mlynedd, ac i'r Winllan (a olygodd o 1864 hyd 1867) am 57 mlynedd; yr oedd yn un o gychwynwyr Y Gwyliedydd (1877), ac yn ddiweddarach bu'n olygydd iddo am 13 mlynedd (yn y Rhyl). Cyfrannodd hefyd i'r Traethodydd, Y Geninen, a'r Athronydd. Cyhoeddodd amryw esboniadau a holwyddoregau, a chasglodd emyniadur i'r ysgolion Sul. Yn 1888 cyhoeddodd gofiant i'w frawd ' Cynfaen.' Bu farw 28 Mehefin 1909.

Mab iddo oedd WILLIAM OWEN EVANS (1864 - 1936), yntau'n weinidog a llenor; ganwyd yn Llanfair Caereinion yn 1864; bu mewn ysgol yn Leeds yn ysgol ramadeg Llanrwst, ac yng ngholeg Didsbury. Dechreuodd weinidogaethu yn 1887. Bu'n llywydd y gymanfa Gymreig yn 1914, ac yn gadeirydd ail dalaith y Gogledd, 1924-33; yn 1930 etholwyd ef yn un o 'Gant Cyfreithiol' ei enwad. Ymneilltuodd yn y flwyddyn honno i Brestatyn, a bu farw yno 16 Gorffennaf 1936; claddwyd yn y Rhyl. Cyfrifid ef yn bregethwr hynod dda, yn y ddwy iaith. Heblaw ei gofiant i'w dad, a llyfr ar Thomas Coke, cyhoeddodd amryw esboniadau. Sgrifennai hefyd yn fynych i'r Eurgrawn a chyfnodolion eraill, a bu'n olygydd Y Winllan am chwe blynedd. A chyfansoddodd nifer o emynau.

Awduron

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.