EVANS, JOHN HUGH ('Cynfaen'; 1833 - 1886), gweinidog Wesleaidd

Enw: John Hugh Evans
Ffugenw: Cynfaen
Dyddiad geni: 1833
Dyddiad marw: 1886
Priod: Maria Evans (née Roberts)
Rhiant: John Evans
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog Wesleaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Edward Tegla Davies

Ganwyd 12 Gorffennaf 1833 yn Ysgeifiog, Sir y Fflint, mab John Evans ('Ioan Tachwedd'). Addysgwyd ef yn Ysgol Genedlaethol y pentref, ac yna (oherwydd anghydwelediad ynglyn â dysgu'r Catecism) yn Ysgol Frutanaidd Licswm. Aeth yn ysgolfeistr tloty Rhuthyn (1853). Derbyniwyd ef i'r weinidogaeth (1860). Gosodwyd ef ar gylchdaith Bangor er mwyn cynorthwyo Samuel Davies yn y llyfrfa. Yna llafuriodd yn Birkenhead (cylchdaith Lerpwl) (1863); Llundain (1866); Llanrhaeadr-ym-Mochnant (1869); y Rhyl (1872); Lerpwl (1875); Caernarfon (1878); Dolgellau (1881); Manchester (1882); Llanrwst (1885). Priododd Maria, merch Issachar Roberts, Lerpwl, gynt o'r Wyddgrug (1864). Cyhoeddodd ysgrifau yn Y Geninen ar 'Chwaeth a Beirniadaeth,' 1883; 'Gweriniaeth yr Eisteddfod,' 1884; 'Eben Fardd fel bardd darluniadol,' 1885-6. Bu ganddo ddwy ysgrif yn Y Traethodydd, 1878-82, a gwnâi ei ysgrifau yn Yr Eurgrawn gyfrol drwchus. Cyhoeddodd gyfrol o bregethau Samuel Davies I, 1864; 'Pryddest Goffa i Thomas Aubrey,' 1869; cyfrol o weithiau Rowland Hughes a'i ddarlith ef arno. Y mae 21 pregeth o'i eiddo, a'i ddarlith ar Job, yn ei Gofiant. Ei syniad ef oedd darlith daleithiol ei enwad, a darlithiodd yn y gyfres ar 'Cristionogaeth a Deddf Derbyniad Crefydd.' Darlithiodd lawer ar destunau eraill. Yr oedd yn un o brif hyrwyddwyr dirwest a'r byrddau ysgol. Bu farw 24 Mehefin 1886.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.