HUGHES, MICHAEL (1752 - 1825), diwydiannwr a dyn busnes

Enw: Michael Hughes
Dyddiad geni: 1752
Dyddiad marw: 1825
Priod: Ellen Hughes (née Pemberton)
Priod: Mary Hughes (née Johnson)
Rhiant: Mary Hughes (née Jones)
Rhiant: Hugh Hughes
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: diwydiannwr a dyn busnes
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes
Awdur: William Llewelyn Davies

Sherdley House (neu Hall), Sutton, plwyf Prescot, sir Lancaster; ganwyd 13 Mai 1752, yr ieuengaf o dri mab Hugh Hughes (1706 - 1774), Lleiniog, gerllaw Biwmares, sir Fôn, a'i wraig Mary, merch Rowland Jones, Carreg-y-fanian, sir Fôn - yr oedd Michael Hughes felly yn frawd i Edward Hughes, clerigwr, a ddaeth yn gyfoethog oherwydd iddo, drwy ei wraig, ddyfod i feddu rhan o Mynydd Parys, y rhan honno o sir Fôn y daethpwyd ymhen ychydig amser i gloddio am gopr ynddi; ar hyn, gweler yr erthyglau ar H. R. Hughes (1827 - 1911), Kinmel, a Thomas Williams (1737 - 1802), Llanidan. Priododd (1), 3 Tachwedd 1788, Mary, merch y Parch. William Bellingham Johnson, Prescot, a (2), 21 Ionawr 1808, Ellen, merch John Pemberton, Sutton Place, sir Lancaster.

Y mae i Michael Hughes bwysigrwydd oherwydd ei ddylanwad ar gwrs yr hyn a elwir gan haneswyr economeg a diwydiant yn ' industrial revolution ' ail hanner y 18fed ganrif a dechrau'r 19eg - yn enwedig mewn cysylltiad â sir Fôn (a rhannau o Sir Gaernarfon, Sir Feirionnydd, a Sir y Fflint) a sir Lancaster; bu i ddatblygiad y diwydiant copr yn sir Fôn ddylanwad ar Abertawe a Chernyw hefyd, yn enwedig trwy Thomas Williams, Llanidan. Cafwyd llawer o olau newydd yn ddiweddar ar gysylltiad Michael Hughes â hyn oll yn sgil astudiaeth gan J. R. Harris o bapurau a choflyfrau Sherdley House; gweler yr erthygl faith sydd ganddo yn Transactions of the Historic Society of Lancashire and Cheshire, (Liverpool, 1950). Yn hon rhoddir manylion newydd am gysylltiad y copr a geid ym Mynydd Parys a mwynfeydd eraill yn sir Fôn, etc., a'r diwydiant toddi yn sir Lancaster; ceir hefyd lawer o wybodaeth am ddiddordebau diwydiannol eraill Michael Hughes a'i swyddogaeth fel un a roddai arian yn fenthyg. Erbyn 1780 yr oedd Hughes yn byw yn Sutton Lodge fel rheolwr dau waith a sefydlasid yn sir Lancaster - y Stanley Works a'r un a elwid yn Ravenhead; câi hefyd gyflog gan gwmni Mynydd Parys - daeth yn bartner yn y cwmni hwnnw yn ddiweddarach a hefyd yn gyfran-ddaliwr yn y Greenfield Copper and Brass Company, Sir y Fflint. Er enghraifft, ceir manylion am ei ddiddordeb yn y llongau bach a gariai rhwng Amlwch ac afon Lerpwl (yr Amlwch Shipping Company), yn y darllawdy yn Amlwch, mewn llosgi calch, gwneuthur priddfeini, yn y Bootle Company, yn gwerthu'r slag a geid ar ôl toddi'r copr, mewn camlesi a gweithydd glo yn sir Lancaster, etc. Yn dilyn ei lwyddiant fel diwydiannwr daeth yn gyfoethog - cawsai fenthyg arian gan ei frawd Edward - ac fe'i ceir yn rhoddi arian i ddiwydianwyr eraill yn sir Lancaster ac i berchenogion tir (e.e. i'r Syr Robert Peel cyntaf). O'r flwyddyn 1797 ymlaen fe'i ceir yn prynu tiroedd ar raddfa eang ac o 1803 hyd 1806 yn adeiladu Sherdley House ac yn brysur gyda gwelliannau amaethyddol. Serch ei brysurdeb mawr yn y cyfeiriadau a nodwyd eisoes - a chofier ei fod yn bartner yn rhai o gwmnïau y gŵr prysur a hirben hwnnw, Thomas Williams, ac yn gyfeillgar â John Wilkinson - yr oedd Hughes yn medru fforddio amser i wasnaethu fel ustus heddwch diwyd yn St. Helens; yr oedd hefyd yn un o ddirprwy-raglawiaid sir Lancaster. Atgynhyrchir yn yr erthygl gan J. R. Harris ddarlun ohono a baentiwyd c. 1810. Bu farw 2 Mai 1825.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.